Teyrnged teulu i ddyn fu farw yn dilyn digwyddiad yn Wrecsam

NS4C

Mae teulu dyn fu farw yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-cae, Wrecsam ddydd Llun wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Karl Saffy, 57 oed, o ardal Cristionydd yn yr ysbyty ar ôl i'r heddlu gael eu galw yn dilyn adroddiadau o ffrwgwd.

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o'i lofruddio, ac fe wnaeth y ddau ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener.

Maent wedi eu cadw yn y ddalfa, ac fe fyddant yn ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mawrth.

Mae teulu Mr Saffy wedi dweud y bydd nifer yn ei golli.

Mewn datganiad, dywedodd y teulu: "Roedd Karl yn ŵr, tad, brawd a thaid annwyl iawn y bydd llawer yn gweld ei eisiau yn fawr.

“Fo oedd canolbwynt bywyd teuluol ac mae wedi ei gymryd oddi wrthym yn llawer rhy fuan.

“Fel teulu rydyn ni i gyd wedi torri ein calonnau ar ôl ei golli.”