Dynes o'r Wyddgrug wedi marw'n ddamweiniol ar draeth yn Corfu
Damwain oedd achos marwolaeth gwraig 54 oed o Sir y Fflint a foddodd tra ar wyliau ar ynys Corfu, yn ôl casgliad cwest a gafodd ei gynnal yn Rhuthun.
Yn y gwrandawiad, dywedodd gŵr Emma Slack o'r Wyddgrug, ei fod yn credu y dylai arwyddion rhybudd fod yn yr ardal ac y dylai rhan o'r traeth fod ar gau ar y pryd, oherwydd amodau'r môr. .
Ceisiodd Rob Slack a'i fab i geisio achub Mrs Slack wrth iddi fynd i drafferthion a chael ei thynnu gan y cerrynt tuat at greigiau, tra roedd hi'n nofio yn ardal Roda ar 9 Gorffennaf.
Eglurodd Mr Slack wrth y cwest fod ei wraig yn ymgynghorydd hyfforddiant, a'i bod yn nofwraig hyderus.
"Ni fyddai wedi rhoi ei hun na'i mab mewn perygl," meddai.
Wrth roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo, ychwanegodd fod rhan o'r traeth yn "ddiogel ac yn addas ar gyfer plant," ond fod yr ardal yn serth.
Ar y diwrnod hwnnw, eglurodd nad oedd unrhyw un yn gweithio yn yr orsaf fad achub agosaf, ac nad oedd arwyddion rhybudd, er i'r awdurdodau Groegaidd nodi yn ddiweddarach bod y "tonnau yn wyllt."
Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol, dywedodd yr Uwch Grwner John Gittins, ei fod yn cytuno â sylwadau Mr Slack o safbwynt diffyg arwyddion, a'r ffaith nad oedd criw achub gerllaw.
Ond nododd nad oedd ganddo'r awdurdod i gyflwyno adroddiad i atal marwolaethau yn y dyfodol, am fod y lleoliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Ychwanegodd nad oedd Mrs Slack wedi cymryd risg a bod ei marwolaeth yn "ddamwain drasig."
Dywedodd ei fod yn cydymdeimlo â Mr Slack, yn enwedig ar drothwy cyfnod y Nadolig.
