Ruth Dodsworth yn derbyn OBE am ei gwaith ym maes camdrin domestig

ITV Cymru
Ruth Dodsworth

Mae cyflwynydd tywydd ITV Cymru Ruth Dodsworth wedi derbyn OBE gan y Brenin am ei gwaith ym maes camdrin domestig. 

Cafodd yr anrhydedd ei chyflwyno iddi gan y Brenin Charles mewn seremoni yng Nghastell Windsor ddydd Mawrth. 

Tra'n siarad ar ôl derbyn yr OBE, dywedodd Ruth Dodsworth mai dyma oedd braint mwyaf ei bywyd.

"Mae'n teimlo'n hollol anghredadwy," meddai.  

"Roedd hyn nid yn unig ar fy nghyfer i, ond ar gyfer fy nheulu, fy ffrinidiau a phawb sydd wedi bod ar y daith ryfedd hon yr ydw i wedi bod arni, i bawb sydd wedi fy nghefnogi.

"Ac mae'r anrhydedd hefyd ar gyfer pawb sydd yn mynd ar eu teithiau eu hunain, oherwydd nid yw'n hawdd, ac mae camdriniaeth o'n cwmpas, ac ym mhobman. 

"Dyna pam bod yr anrhydedd hon mor bwysig, oherwydd mae'n caniatáu i fi barhau â'r sgwrs. Byddaf yn defnyddio hyn yn ddoeth, a gobeithio ryw ddydd, na fyddwn yn gorfod siarad am gamdrin domestig, am na fydd yn codi ei ben mwyach.  

"Ond hyd at y pwynt hwnnw, mae'r anrhydedd hon ar gyfer pawb y mae camdriniaeth ddomestig wedi effeithi0 arnyn nhw, ac rwy'n llawn balchder."

Dioddefodd y ddarlledwraig bron i ddegawd o reolaeth trwy orfodaeth gan ei chyn ŵr, a gafodd ei garcharu am dair blynedd yn 2021.  

Ers hynny, mae Ruth wedi bod ymgyrchu'n gyhoeddus ar ran dioddefwyr camdriniaeth ddomestig, gan weithio'n agos â sawl elusen er mwyn annog dioddefwyr i ofyn am gymorth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.