Cyngor yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at orwariant £4m ar gynllun harbwr Aberaeron
Mae Cyngor Ceredigion yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i dalu bron i £3.5m o £4m o orwariant ar gynllun amddiffyn arfordir Aberaeron.
Fis diwethaf fe wnaeth Newyddion S4C ddatgelu bod disgwyl i'r gorwariant terfynol gyrraedd £4 miliwn, yn ôl amcangyfrif diweddaraf swyddogion yr awdurdod.
Cafodd y cynllun ei gymeradwyo yn 2023, gyda'r gost yn wreiddiol i fod yn £31.6 miliwn.
Roedd hyn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru (£26.85m) a Chyngor Sir Ceredigion (£4.74m).
Clywodd cynghorwyr Ceredigion mewn cyfarfod ddydd Llun bod y sir yn wynebu talu y £4m ychwanegol ond bod swyddogion yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn fodlon talu cyfran ohono.
Yn y cyfarfod, dywedodd Swyddog Arweiniol Corfforaethol y Cyngor, Duncan Hall, fod cost lawn y gorwariant ar hyn o bryd yn disgyn ar y cyngor.
Ond y gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu 85% o'r gorwariant, sef £3.4m, yn yr un modd â’r prosiect ei hun.
Fe fyddai hynny yn gadael y 15%, sy'n cyfateb i tua £600,000, i'w ariannu gan y cyngor.
“Rydym yn rhagweld y bydd adroddiad mwy cyflawn ar y cynllun yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd,” meddai'r adroddiad i'r aelodau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C nad oedd eu safbwynt nhw ar y gorwariant wedi newid.
"Rydym yn darparu cyllid i Awdurdodau Rheoli Risg yng Nghymru ar gyfer prosiectau sy'n helpu i gyflawni nodau'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru,” meddai'r Llywodraeth.
"Unwaith y bydd cyllid wedi'i sicrhau o'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol, mae asiantaethau unigol wedyn yn gyfrifol am gyflawni'r cynlluniau hyn.
“Felly, Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am gynllun rheoli risg arfordirol Aberaeron."
‘Sicrwydd’
Yn ol adroddiad ar gyfer aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion, roedd y gwaith wedi gor-redeg o ryw 43 wythnos.
2 Rhagfyr 2024 oedd y dyddiad cwlhau gwreiddiol ond cafodd ei ymestyn hyd at 30 Medi eleni.
Roedd pedair rhan o’r cynllun wedi costio dros £500,000 yn fwy na’r disgwyl, gan gynnwys newidiadau i Bwll Cam ynghanol tref Aberaeron.
Y tu allan i'r cyfarfod, dywedodd y cynghorydd sir lleol dros Aberaeron, y Cynghorydd Elizabeth Evans: “Mae gan bob prosiect elfen o orwariant, ond mae'n amlwg bod prosiect Aberaeron yn sylweddol uwch na'r gyllideb.
“Rwy'n gwybod bod Ceredigion mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru ac mae ganddyn nhw gwestiynau i'w hateb hefyd.
“Mae'n bwysig nawr bod Cyngor Ceredigion yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch eu cyfraniad at y gorwariant.
“Pan fydd y trafodaethau hynny wedi'u cwblhau, rydw i am geisio sicrwydd y bydd dadl yn mynd gerbron y pwyllgor craffu perthnasol.”
