Llun newydd o Huw Edwards yn sbarduno dyfalu am ei ddyfodol
Mae dyfalu os bydd y darlledwr Huw Edwards yn ceisio dychwelyd i fywyd cyhoeddus wedi iddo ddiweddaru ei lun ar y cyfryngau cymdeithasol am y tro cyntaf ers ei euogfarn yn 2024.
Fe gyhoeddodd Mr Edwards lun du a gwyn ohono'i hun ar ei gyfrif Facebook ychydig ddyddiau'n ôl.
Roedd yn un o'r wynebau mwyaf adnabyddus ar y teledu cyn i'w yrfa ddisglair orffen wedi sgandal a ddaeth i ben pan gafodd ddedfryd o chwe mis o garchar wedi'i ohirio ym mis Gorffennaf 2024.
Y Cymro 64 oed oedd y darlledwr newyddion ar y cyflog uchaf yn y BBC cyn iddo adael y gorfforaeth.
Fe gyflwynodd News At Ten am ddegawdau cyn iddo bledio’n euog i droseddau yn cynnwys creu delweddau anweddus o blant, a bod â 41 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Roedd saith o'r lluniau yn ei feddiant yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol - sef categori A.
Dywedodd ynad yn Llys Ynadon Westminster yn ystod ei ddedfrydu na fyddai’n ormodedd i ddweud bod enw da Huw Edwards "yn deilchion” wedi ei euogfarn.
Nid oedd unrhyw neges wedi ei gyhoeddi gyda'r llun newydd ohono af Facebook, ond fe arweiniodd at sawl un o'i ddilynwyr yn dyfalu os bydd yn ceisio dychwelyd i fywyd cyhoeddus yn fuan.
Nid oes unrhyw gyhoeddiad swyddogol wedi ei wneud ar ran Mr Edwards chwaith am ei gamau nesaf, gydag unrhyw awgrym am ei fwriad i ailafael yn ei fywyd cyhoeddus yn ddyfalu'n unig ar sail y llun newydd ohono.