Gwerthu cyfran o Glwb Pêl-droed Wrecsam i gwmni rheoli asedau rhyngwladol

Ryan a Rob - Anrhydedd Wrecsam

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam a'i gyd-gadeiryddion, Rob Mac a Ryan Reynolds, wedi gwerthu cyfran o'r clwb i gwmni rheoli asedau rhyngwladol.

Bydd Apollo Sports Capital, cwmni sydd yn berchen ar glwb Atletico Madrid yn Sbaen, yn gweithredu fel buddsoddwyr lleiafrifol newydd yn y clwb. 

Mae'r buddsoddiad yn cyd-fynd â strategaeth hirdymor Clwb Pêl-droed Wrecsam a'u dyheadau i gyrraedd Uwch Gynghrai Lloegrr, gyda'r cyfranddalwyr mwyafrifol Mac a Reynolds yn parhau i oruchwylio'r Clwb fel perchnogion.

Fel rhan o'r buddsoddiad, bydd Apollo Sports Capital hefyd yn darparu cyllid ar gyfer Cae Ras STōK, gan helpu i hyrwyddo ailddatblygiad y stadiwm, gan gynnwys stand y Kop newydd. 

Mae'r ailddatblygiad yn elfen allweddol o Brosiect Porth Wrecsam, sef cynllun adfywio i gefnogi dyfodol economaidd y ddinas. 

Gobaith y prosiect yw i ddathlu treftadaeth Wrecsam wrth greu cyrchfan eiconig i gefnogwyr, ymwelwyr a'r gymuned leol.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd cyd-gadeiryddion Clwb Pêl-droed Wrecsam, Rob Mac a Ryan Reynolds, “O’r diwrnod cyntaf, roedden ni eisiau adeiladu dyfodol cynaliadwy i Glwb Pêl-droed Wrecsam. A gwneud hynny gyda rhywfaint o galon a hiwmor. 

"Y freuddwyd erioed fu mynd â’r clwb hwn i’r Uwch Gynghrair gan aros yn driw i’r dref. Mae twf fel ‘na’n gofyn am bartneriaid o’r radd flaenaf sy’n rhannu ein gweledigaeth a’n huchelgais, ac mae Apollo yn sicr yn gwneud hynny. 

"Rydym wedi adnabod Al Tylis, Prif Swyddog Gweithredol Apollo Sports Capital, ers blynyddoedd lawer ac rydym wrth ein bodd bod ASC bellach yn ymuno â theulu Wrecsam wrth i ni gymryd y cam nesaf ymlaen gyda’n gilydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.