Dim sicrwydd am ddyfodol swyddi amddiffyn yn y de
Mae gweinidog wedi gwrthod dweud a fydd swyddi amddiffyn yn y de yn ddiogel yn y tymor hir ar ôl i'r fyddin roi'r gorau i ddefnyddio'r cerbyd arfog Ajax.
Dywedodd Luke Pollard fod y Llywodraeth wedi “ymrwymo i'r sector amddiffyn yng Nghymru” wrth iddo ymateb i bryderon gan ASau yn San Steffan nos Llun.
Daeth y penderfyniad i atal y defnydd o'r Ajax yr wythnos diwethaf, ar ôl i tua 30 o filwyr fynd yn sâl wrth gael eu hyfforddi yn y cerbyd.
Roedd y gweinidog amddiffyn wedi ymweld â safle General Dynamics ym Merthyr Tudful fis diwethaf, lle'r oedd chwe elfen math gwahanol o gerbyd Ajax yn cael eu datblygu.
Dywedodd ar y pryd fod y cynllun wedi "gadael ei thrafferthion ar ei hôl".
Mae cynllun £6.3 biliwn y Weinyddiaeth Amddiffyn i adeiladu 589 o'r cerbydau wedi bod yn destun beirniadaeth ar ôl blynyddoedd o oedi a phroblemau gan gynnwys problemau sŵn a dirgryniad a anafodd filwyr.
Wrth ymateb i gwestiwn brys ar Ajax, dywedodd Mr Pollard nad yw'n "neidio'n fwriadol i unrhyw gasgliadau ar hyn o bryd" ac mae'n aros am adolygiad o'r sefyllfa cyn cymryd y camau nesaf.
Sicrwydd
Galwodd Ruth Jones AS o'r Blaid Lafur ar y gweinidog i roi sicrwydd i weithwyr ynghylch eu swyddi, wrth i'r Nadolig agosáu.
Dywedodd yr AS dros Orllewin Casnewydd ac Islwyn: “O ystyried bod y gweithwyr ar safle Oakdale yn fy etholaeth yn ddiwyd ac yn gweithio’n galed, ac mae’r Nadolig yn agosáu’n gyflym, pa sicrwydd all y gweinidog ei roi i mi fod swyddi amddiffyn sy’n gysylltiedig â’r rhaglen hon yng Ngorllewin Casnewydd ac Islwyn ac ar draws De Cymru yn ddiogel yn y tymor hir?”
Atebodd Mr Pollard: “Rwy’n cydnabod pwysigrwydd y cyfraniad economaidd y mae General Dynamics yn ei wneud, nid yn unig i Ferthyr, ond i’r gymuned ehangach hefyd.
“Mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd a pha wersi y gellir eu dysgu, ond fel Llywodraeth, rydym yn cynyddu gwariant amddiffyn, ac rydym yn cefnogi busnesau, mawr a bach ledled y wlad.
“Byddaf yn hapus iawn i gwrdd â hi a’i chydweithwyr yn Ne Cymru i drafod hyn ymhellach.”
Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn