Annog plant i gael brechlyn ffliw cyn y Nadolig
Mae rhieni plant sydd heb gael eu brechlyn ffliw yn yr ysgol yn cael eu hannog i'w gymryd gan fod y ffliw ar gynnydd yng Nghymru.
Mae mwy na 800,000 o bobl yng Nghymru eisoes wedi cael eu brechu ond mae cyfraddau'r ffliw yng Nghymru wedi cynyddu yr wythnos ddiwethaf ac mae disgwyl rhagor o achosion yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Gyda straen newydd o'r ffliw yn lledaenu, mae nifer o achosion wedi eu cadarnhau ymysg plant o dan bump oed ar hyn o bryd, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Chwistrell trwyn sy'n cael ei ddefnyddio fel brechlyn ffliw ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng dwy oed a 16 oed, yn hytrach na phigiad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y brechlyn eleni yn effeithiol iawn wrth atal plant rhag gorfod mynd i'r ysbyty.
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver: "Mae'n bwysig iawn bod pawb sy'n gymwys yn manteisio ar eu cynnig o frechlyn y ffliw am ddim y gaeaf hwn.
"Rydyn ni'n gweld straen ffliw newydd yn mynd ar led a dechrau cynharach i dymor y ffliw ond mae amser o hyd i gael y brechlyn felly ewch ati nawr, i amddiffyn eich plentyn mewn pryd ar gyfer y Nadolig."
Ychwanegodd y Dr Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r brechlyn chwistrell trwyn rhag y ffliw yn ddiogel, yn ddi-boen, ac yn helpu i amddiffyn miloedd o blant o oedran ysgol yng Nghymru bob blwyddyn.
"Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn i blant, ond mae un chwistrell gyflym yn helpu i'w cadw'n iach y gaeaf hwn ac yn lleihau'r risg o salwch difrifol."
Mae brechlyn y ffliw ar gael am ddim i bob plentyn o ddwy oed (a gafodd eu geni cyn Medi 2023) hyd at flwyddyn ysgol 11, ac i bob plentyn mewn grŵp risg glinigol dros 6 mis oed.
Mae'r brechlyn hefyd ar gael i nifer o oedolion, gan gynnwys pawb sydd yn 65 oed neu'n hŷn, pobl â chyflwr iechyd hirdymor, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, menywod beichiog a gofalwyr.