Rhagflas o gemau nos Fawrth yn y Cymru Premier JD
Ar ôl cystadlu yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG dros y penwythnos, bydd Y Seintiau Newydd a’r Barri yn chwarae eu gemau cynghrair nos Fawrth.
Llansawel (10fed) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 19:45
Mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG am y trydydd tymor yn olynol, ac am y 13eg tro yn eu hanes.
Ond doedd hi’n sicr ddim yn hawdd i’r deiliaid yn y rownd gynderfynol yn erbyn Llandudno o’r ail haen brynhawn Sadwrn, gyda dim ond un gôl yn gwahanu’r timau ar y chwiban olaf (YSN 2-1 Lldo).
Mae’r Seintiau Newydd 10 pwynt yn glir ar frig tabl y Cymru Premier JD ac yn anelu i sicrhau dwbl domestig am y pumed tymor yn olynol.
Jordan Williams yw prif sgoriwr y Seintiau eleni, a gyda 17 gôl gynghrair yn barod, mae Williams eisoes wedi rhwydo mwy nac y gwnaeth enillwyr yr Esgid Aur y tymor diwethaf (16 – James Crole, Louis Lloyd).
Mae Llansawel yn hafal ar bwyntiau gyda’r Fflint (11eg), ond mae gan y Cochion ddwy gêm wrth gefn i geisio agor bwlch rhyngddyn nhw a’r ddau isaf.
Yn rhyfeddol, mae Llansawel wedi ennill dwy o’u tair gêm ddiwethaf yn erbyn Y Seintiau Newydd, yn cynnwys buddugoliaeth ragorol o 3-0 oddi cartref yng Nghroesoswallt ar benwythnos agoriadol y tymor.
Gemau tan yr hollt:
Llansawel: YSN (c), MET (oc), CEI (oc), PEN (oc), BARR (c), HWL (oc) ͏
Y Seintiau Newydd: LLS (oc), BALA (c), CEI (oc), BAE (c)
Record gynghrair ddiweddar:
Llansawel: ͏❌❌❌✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅❌✅✅
Pen-y-bont (3ydd) v Y Barri (7fed) | Nos Fawrth – 19:45
Mae’r Barri wedi hawlio eu lle yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf ers naw blynedd ar ôl buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 oddi cartref yn erbyn Cambrian ddydd Sadwrn.
Ond tra bod Y Barri’n brysur yn cystadlu’n y cwpan fe gododd Met Caerdydd uwch eu pennau i’r hanner uchaf, ac felly mae’n mynd i fod yn ras agos rhwng y ddau glwb i gyrraedd y Chwech Uchaf eleni.
Gemau tan yr hollt:
Pen-y-bont: BARR (c), LLS (c), LLI (oc), MET (c) ͏
Y Barri: PEN (oc), MET (c), LLS (oc), CEI (oc), LLI (c)
Mae’r Barri ar rediad arbennig o naw gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ac wedi cadw saith llechen lân yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae Pen-y-bont ar y llaw arall wedi llithro i’r 3ydd safle ar ôl colli pedair o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf, gan ildio 21 o goliau yn ystod y rhediad hwnnw (3.5 gôl y gêm).
Ond dyw Pen-y-bont heb golli yr un o’u 13 gêm gynghrair ddiwethaf yn erbyn Y Barri (ennill 8, cyfartal 5), a Noah Daley oedd y seren i’r Gleision yn y gêm gyfatebol ym mis Awst, yn sgorio hatric yn ei ymddangosiad cyntaf i Ben-y-bont yn y gynghrair (Barri 2-3 Pen).
Record gynghrair ddiweddar:
Pen-y-bont: ͏ ❌✅❌✅❌
Y Barri: ➖➖✅➖✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.