Prinder dehonglwyr yn 'bygwth llwyddiant cyfraith Iaith Arwyddion Prydain'
Mae prinder dehonglwyr a chyfieithwyr yn bygwth llwyddiant cyfraith Iaith Arwyddion Prydain yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau'r Senedd.
Mae'r adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn dadansoddi newid arfaethedig yn y gyfraith a gafodd ei gyflwyno gan Mark Isherwood AS, sef y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).
Bwriad y Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) yw hyrwyddo'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, ac fe fyddai yna ddyletswyddau gan Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus.
Byddai Cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain hefyd yn cael ei benodi er mwyn cefnogi'r broses.
'Recriwtio a chadw dehonglwyr'
Un o brif effeithiau'r gyfraith fyddai ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gyhoeddi cynlluniau Iaith Arwyddion Prydain o ran eu bwriad i hyrwyddo defnyddio'r iaith.
Ond mae'r adroddiad yn dweud na fydd uchelgeisiau'r gyfraith arfaethedig yn gallu cael eu cyflawni heb "fuddsoddiad uniongyrchol a chynaliadwy mewn hyfforddi" a "recriwtio a chadw dehonglwyr a chyfieithwyr".
Dim ond 54 o ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain cofrestredig sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl yr adroddiad.
Mae cyrff cyhoeddus a chymunedau byddar wedi rhybuddio hefyd fod dehonglwyr a chyfieithwyr presennol 'o dan bwysau mawr' gyda nifer ar fin ymddeol a llwybrau cyfyngedig i ddehonglwyr newydd ymuno â'r proffesiwn.
Dywedodd y pwyllgor mai'r bygythiad mwyaf i weithredu'n effeithiol yw prinder cyfieithwyr a dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain.
'Newid gwironeddol a pharhaol'
Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu drwy osod targedau blynyddol 'clir ac uchelgeisiol' ar gyfer hyfforddi a recriwtio yn ôl y pwyllgor.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Gallai’r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), os caiff ei gyflwyno’n drylwyr, gyflwyno newid gwirioneddol a pharhaol. Mae'n cynrychioli carreg filltir bwysig yn yr ymdrechion i gydnabod Iaith Arwyddion Prydain fel iaith a diwylliant ar wahân.
“Fodd bynnag, prinder cyfieithwyr a dehonglwyr yng Nghymru yw’r bygythiad mwyaf i lwyddiant y gyfraith arfaethedig hon. Mae gweithlu presennol y dehonglwyr yn rhy fach ac mae disgwyl i rai fod yn ymddeol tra bod disgwyl i'r galw gynyddu'n sylweddol."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi ymrwymo i gryfhau'r ddarpariaeth Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru a chreu gwlad sy'n parchu ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'n cymdeithas.
"Rydyn ni’n croesawu ac yn cefnogi Bil BSL (Cymru) Mark Isherwood, a fydd yn helpu i gyflawni ein nodau cyffredin o hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL yng Nghymru."
.