Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn mannau o Gymru

Rhybudd melyn am wynt

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer rhannau o arfordir gorllewinol a gogledd Cymru ar ddechrau’r wythnos.

Mae disgwyl i wyntoedd o’r de i’r de orllewin gryfhau yn ystod dydd Llun cyn i’r rhybudd ddod i rym rhwng 22.00 ddydd nos Lun a 16:00 ddydd Mawrth.

Gallai'r gwyntoedd achosi hyrddiadau rhwng 40 a 50 milltir yr awr, gyda rhai mannau arfordirol a thir uchel yn debygol o wynebu gwyntoedd dros 70 milltir yr awr dros ogledd orllewin Cymru.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r storm achosi difrod i adeiladau ac effeithio ar gyflenwadau pŵer.

Ychwanegodd y gallai hefyd effeithio ar drafnidiaeth.

Mae’r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol yng Nghymru:

  • Abertawe
  • Caerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Dinbych
  • Gwynedd
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Ynys Môn

 

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi ymestyn eu rhybudd melyn am law trwm rhwng 18:00 nos Lun a 18:00 dydd Mawrth i gynnwys siroedd Conwy, Dinbych, Gwynedd a Wrecsam.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.