Pobl ifanc ar fudd-daliadau i gael cynnig gwaith lletygarwch ac adeiladu
Bydd pobl ifanc ar fudd-daliadau yn cael cynnig gwaith ym meysydd lletygarwch ac adeiladu mewn ymgais i atal y cynnydd mewn diweithdra ymysg pobl ifanc.
Mae gweinidogion Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn gwerth £820 miliwn i roi cymorth i bobl ar fudd-daliadau gael swyddi.
Mae'r arian yn cynnwys cyllid ar gyfer hyfforddiant a phrofiad gwaith ym meysydd adeiladu, lletygarwch, iechyd a gofal cymdeithasol i 350,000 o bobl ifanc ar gredyd cynhwysol.
Fe fydd rhai pobl ifanc yn derbyn "cymorth dwys" i'w helpu dod o hyd i swyddi, ond mae'r llywodraeth yn dweud bod y rhai sydd yn gwrthod cyd-weithio heb reswm da o bosib yn colli rhai o'u budd-daliadau.
Credir i rai o'r swyddi gael eu creu yn ne Cymru, gydag eraill yn Birmingham, Manchester, Essex a chanolbarth yr Alban.
'Cyfle i lwyddo'
Dywedodd y Gweinidog Gwaith a Phensiynau, Pat McFadden y byddai pobl ifanc yn gwneud y swyddi yma gyda'r gefnogaeth gywir.
"Mae pobl person ifanc yn haeddu cyfle teg i lwyddo," meddai.
"Pan maen nhw'n derbyn y cymorth a chyfleoedd cywir, maen nhw'n gwneud y mwyaf ohono."
Daw'r cyhoeddiad yma wrth i nifer y bobl ifanc rhwng 16-25 oed sydd ddim mewn swydd, addysg neu hyfforddiant gynyddu i 940,000.
Mae hynny'n gynnydd o 195,000 dros y ddwy flynedd diwethaf.
Dywedodd Mr McFadden fod y cyllid newydd yn “flaendal ar ddyfodol pobl ifanc a dyfodol y wlad, gan greu llwybrau go iawn i swyddi da a darparu profiad gwaith, hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth".
Mae disgwyl i gynlluniau pellach ar gyfer pobl ifanc gael eu cyhoeddi yn yr wythnos nesaf wrth i’r llywodraeth baratoi i gyhoeddi eu strategaeth ieuenctid cenedlaethol.
Dywedodd Helen Whately, ysgrifennydd gwaith a phensiynau cysgodol y Ceidwadwyr: “Mae codiadau treth y Canghellor yn cynyddu diweithdra ymhlith pobl ifanc, gan gymryd gyrfa oddi wrth genhedlaeth o bobl ifanc.
“Mae hwn yn gyfaddefiad nad oes gan y llywodraeth gynllun ar gyfer twf, dim cynllun i greu swyddi go iawn, a dim ffordd o fesur os yw unrhyw ran o’r arian hwn yn cyflawni canlyniadau.
“Ni all gweinidogion ddweud beth yw’r rolau, pwy fydd y cyflogwyr, na faint o swyddi fydd yn dal i fodoli unwaith y bydd y cyllid yn dod i ben.”