Teimlad 'ffantastig' i sgorio ar ôl goroesi cancr

Teimlad 'ffantastig' i sgorio ar ôl goroesi cancr

Sgorio

Mae pêl-droediwr yn dweud ei bod hi'n deimlad "ffantastig" i sgorio unwaith eto ar ôl iddo oroesi cancr.

Sgoriodd Daniel Gosset yn ei ymddangosiad cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru i Gaernarfon ddydd Sadwrn, gyda'r Cofis yn curo Hwlffordd o ddwy gôl i ddim.

Fe gafodd Gosset o'r Felinheli ddiagnosis o Non-Hodgkin's Lymphoma ym mis Awst 2019, ond fe gyhoeddodd ar Twitter ym mis Ionawr eleni ei fod bellach yn glir o'r cancr.

Gosset hefyd oedd seren y gêm ddydd Sadwrn.

Mewn cyfweliad gyda Sgorio ar ddiwedd y gêm, dywedodd Gosset bod sgorio'r gôl yn "teimlo'n ffantastig".

"Wrth fy modd yn gallu sgorio o flaen y Cofi Army sydd wedi cael dod yma heddiw, a mae'r gôl yn sbesial i fi hefyd."

Dyma'r tro cyntaf i dimau'r gynghrair gael chwarae o flaen torf ers dechrau'r pandemig.

"Mae wedi bod yn dwy flynadd anodd i bawb, so neis iawn gweld nhw nol rownd y cae yn canu , a mae'n rhoi lot o egni i'r hogiau a falch o sgorio dau gôl neis iddyn nhw heddiw."

Yn dilyn y fuddugoliaeth, mae'r gobeithion yn uchel i'r clwb.

Ychwanegodd Gosset: "Dwi'n meddwl i gymryd bob gêm fel mae o'n dod. O'n i'n siomedig i beidio cal mewn i Ewrop blwyddyn dwetha, felly gobeithio mynd un step yn bellach. Gynno ni squad da yn fama so gani weld. Jysd y gêm gynta ydi, mae 'na lot o gema o flaen ni, so, mlaen i'r nesa' wan."