Newyddion S4C

Gwarchodaeth ryngwladol i Gig Oen Morfa Heli’r Gŵyr

Cig oen y Gŵyr

Mae cig oen Morfa Heli’r Gŵyr wedi ennill statws Dynodiad Daearyddol y DU.

Mae’r wobr “uchel ei bri” yn rhoi diogelwch rhyngwladol i’r cynnyrch Cymreig.

Golygai hyn mai dim ond Cig Oen Morfa Heli’r Gŵyr y gellir ei werthu gyda logo Dynodiad Daearyddol y DU – sy’n gwarantu bod y cynnyrch yn dod o ŵyn a gafodd eu geni a’u magu ar arfordir Gogledd Gŵyr yng Nghymru.

Yn ôl ffermwr ô’r Gŵyr, mae derbyn statws o’r fath yn “wych i Gymru ac i gynnyrch o Gymru".

Dywedodd Dan Pritchard, sy’n rhedeg fferm deuluol cig oen Morfa Heli’r Gŵyr ar Benrhyn Gŵyr:

"Rydym mor falch bod Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr wedi ennill statws uchel ei bri Dynodiad Daearyddol y DU.

"Rydym yn hynod falch o'r hyn rydym yn ei gynhyrchu ac mae'n wych ei fod yn cael ei gydnabod a'i ddathlu.

"Bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu i ddiogelu enw da ein cynnyrch rhanbarthol, hyrwyddo arferion amaethyddol traddodiadol a gwaredu cynhyrchion nad ydynt yn rhai dilys. Mae'n ddiwrnod gwych i Gymru ac i gynnyrch o Gymru".

‘Diogelwch cyfreithiol’

Cafodd y cynllun Dynodiad Daearyddol y DU ei sefydlu ar ddechrau 2021, ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bwriad y cynllun yw sicrhau y gall rhai cynhyrchion bwyd a diod barhau i dderbyn diogelwch cyfreithiol rhag unrhyw ymdrechion i efelychu a chamddefnyddio.

Dyma’r cynnyrch newydd cyntaf i ennill statws Dynodiad Daearyddol y DU, gyda’r cig hwn yn dod yr ail aelod ar bymtheg o deulu cynhyrchion Cymru ar y rhestr.

Ymhlith y cynnyrch Cymreig eraill mae Halen Môr Môn, Cig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a Thatws Cynnar Sir Benfro.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae pob aelod o’r teulu yn “gwbl Gymreig”, gyda “chysylltiadau unigryw â’r tirweddau a’r morweddau sy’n eu meithrin.”

Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, wedi llongyfarch y ffermwyr lleol ar eu llwyddiant.

"Rydym am hyrwyddo cynhyrchion bwyd a diod o Gymru sy'n tystio i’w hanesion am arbenigedd, traddodiad a chynaliadwyedd, oll gydag ymdeimlad angerddol o'u gwreiddiau unigryw.

"Hoffem weld Cymru’n parhau i arwain y ffordd o ran cydnabod cynnyrch eiconig ac rwy'n hyderus y bydd llwyddiant diweddaraf Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yn annog ceisiadau newydd eraill am statws Dynodiad Daearyddol y DU, o bob categori bwyd a diod yng Nghymru."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart: "Mae Cymru'n manteisio ar ddetholiad anhygoel o fwyd a diod gan gynnwys caws, bwyd y môr a chwrw sy'n hedfan y faner ar gyfer rhagoriaeth coginio ar draws y byd.

"Mae'n wych i weld Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yn cael ei ychwanegu i'r rhestr o gynnyrch eiconig o Gymru, gan ddod yn gynnyrch cyntaf i gael ei gydnabod dan gynlluniau newydd ac annibynnol y DU.

"Mae sicrhau dilysrwydd bwyd a diod Gymreig yn helpu i sefydlu ein henw am ansawdd adref ac o fewn marchnadoedd rhyngwladol newydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.