Yr Ysgrifennydd Cartref yn dewud y bydd yn cau ‘bwlch yn y gyfraith’ ar ymosodwyr treisgar
Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn dweud y bydd ‘bwlch yn y gyfraith’ ar ymosodwyr treisgar yn cael ei gau.
Dywedodd Yvette Cooper y bydd yr heddlu a’r llysoedd yn cael pwerau i ddelio â phobl a ddrwgdybir eu bod yn cynllunio llofruddiaethau torfol.
Dywedodd Yvette Cooper y bydd trefniadau newydd yn galluogi’r system cyfiawnder troseddol i “gau’r bwlch” rhwng pobl a ddrwgdybir o derfysgaeth, y gellir eu carcharu am oes am gynllunio ymosodiadau, ac unigolion nad ydynt yn cael eu gyrru gan ideoleg benodol.
Byddai’r heddlu’n cael pwerau i’w harestio cyn iddynt gyflawni ymosodiadau.
Dywedodd Ms Cooper wrth gyfres State of Terror ar BBC Radio 4: “Mae bwlch yn y gyfraith ynghylch cynllunio ymosodiadau torfol a all fod yr un mor ddifrifol (â therfysgaeth) yn eu goblygiadau i gymunedau, eu heffaith, y dinistr y gallant ei achosi a difrifoldeb y drosedd.
“Byddwn yn tynhau deddfwriaeth fel bod hynny’n cael ei ystyried yr un mor ddifrifol â therfysgaeth.”
Dywedodd y byddai deddfwriaeth yn debyg i’r un sy’n caniatáu i’r heddlu arestio pobl a ddrwgdybir o derfysgaeth am gamau a gymerwyd i baratoi ar gyfer ymosodiad, fel ymchwil, nad yw ar gael ar hyn o bryd heb gysylltiadau ag achos ideolegol.
“Rydym wedi gweld achosion o niferoedd cynyddol o bobl ifanc yn radicaleiddio eu hunain ar-lein ac yn gweld pob math o ddeunydd eithafol ar-lein yn eu hystafelloedd gwely,” meddai.
“Rhaid i ni sicrhau y gall y systemau ymateb heb dynnu ein llygad oddi ar y bygythiadau ideolegol mwy hirhoedlog.”
Mae ymosodwr Southport, Axel Rudakubana, a laddodd dair merch mewn dosbarth dawns, ymhlith yr unigolion a allai fod wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth.