Newyddion S4C

'Darn mawr ar goll' ar ôl colli brawd i iechyd meddwl

Hansh 30/07/2021

'Darn mawr ar goll' ar ôl colli brawd i iechyd meddwl

Mae dwy chwaer wedi rhannu eu profiadau ar ôl colli eu brawd wedi iddo ddioddef gyda'i iechyd meddwl.

Fe gollodd Hawys a Miriam eu brawd Gruff y llynedd ar ôl iddo ladd ei hun yn 26 oed.

Mae'r ddwy wedi siarad ar raglen ddogfen ar Hansh S4C, 'Wyt Ti'n Iawn? Agor y sgwrs ar iechyd meddwl ffermwyr ifanc Cymru.'

Mae modd gwylio'r ddogfen lawn ar dudalen YouTube Hansh.

“Roedd Gruff yn hogyn annwyl iawn, gofalgar ofnadwy.  Hapus, egnïol, wastad isho mynd, ‘neud pethe.  Ia, llawer o ddiddordebe tu allan," dywedodd Hawys.

“Er o’dd o’n iau na’r ddwy ohono ni, o’dd o’n edrych ar ôl ni. Hefyd, o’dd o’n ffrind i’r ddwy ohonon ni”, ychwanegodd ei chwaer, Miriam.

Image
Gruff, Miriam a Hawys
Hawys a Miriam gyda'u brawd bach, Gruff (Llun: Hansh S4C)

Yn ôl Miriam, roedd Gruff wedi siarad am ei iechyd meddwl flwyddyn ynghynt. 

Ond, nid oeddent wedi deall pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.

Dywedodd Miriam: “Rhw’ flwyddyn o flaen llaw, nath Gruff ddeutha i bod o’n stryglo ‘chydig bach, bod o ddim yn gallu cysgu a rhyw bethe.

“Ond nathon ni fynd i’r doctor, gath o’i tabledi ac o’dd o i weld yn delio efo fo reit dda.

“I ni fel teulu, doeddan ni ddim yn gweld o’n dod.  Doedd gen ni ddim syniad pa mor ddifrifol oedd o”.

Image
Miriam a Hawys
Mae Miriam a Hawys wedi siarad ar raglen ddogfen Hansh S4C

'Darn mawr ar goll'

Dywedodd Hawys: “Ma’ ‘na darn mawr ar goll.  Dio’m yn teimlo fel bod o fod.  O’dd o’n gymaint o rhan o’m mywyd i bob dydd, mewn pob rhan ohono fo, fedrai dal ddim credu fod o ‘di mynd.  Dwi dal yn disgwyl iddo fo ddod trw’r drws unrhyw eiliad”.

Mae ffrind Gruff, Tomos, wedi ei ddisgrifio fel bachgen annwyl, llawn hwyl.

“O’dd o’n ffrind da, wastad yn annwyl a o’dd o’n licio cymdeithasu.  Licio fod yn canu efo’r aelwyd leol a hefo’r ffermwyr ifanc hefyd a o’dd o jyst wastad yn rhoi gwên ar gwyneb chi a wastad llawn hwyl o hyd," dywedodd Tomos.

Image
Hansh

Dechrau'r sgwrs

Yn rhan o'r ddogfen, mae criw o amaethwyr ifanc wedi disgrifio eu profiadau o gael eu heffeithio gan salwch iechyd meddwl.

Mae eu straeon yn codi'r llen ar yr heriau sy’n wynebu nifer o ffermwyr a gweithwyr amaethyddol.

Rhwng 2011 a 2019, gwnaeth 65 person oedd yn gweithio yn y byd amaeth a diwydiannau cysylltiedig ladd eu hunain, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Roedd 63 o’r rhain yn ddynion.

‘Bod yn anghyfforddus’

Mae tri gŵr – Gareth, Gethin a Tomos wedi rhannu eu profiadau o iselder meddwl er mwyn ceisio helpu eraill sydd wedi cael profiadau tebyg.

Dywedodd Gareth o Gemaes, Ynys Môn: “Mae’r iselder wedi dechrau’n raddol o pan oeddwn i’n tua naw neu 10 oed ddeud y gwir a wedi gwaethygu fel mae’r amseroedd neu’r blynyddoedd wedi mynd heibio nes bod o ‘di dod yn fwyfwy amlwg efallai i fi fy hun pan oeddwn i wedi troi’n 18”.

Sylwodd Gareth ar yr iselder yn gyntaf pan nad oedd yn teimlo’n gwbl gyfforddus.

Dywedodd: “Dwi’n meddwl mai dyna o’dd y problam cynta’, o’dd bod yn anghyfforddus.  Dim yn ganol pobol, jyst mewn gwahanol sefyllfaoedd”.

Image
Gethin o Gaerdydd
Gethin, un o'r Ffermwyr Ifanc sydd wedi rhannu eu profiadau (Llun: Hansh S4C)

Dywedodd Gethin, sy’n byw yng Nghaerdydd: “Dechreuodd yr iselder i fi tua 10 mlynedd yn ôl rŵan adeg TGAU yn yr ysgol uwchradd. Lot o bwysau – dwi’n cofio lot o bwysau arholiadau.  Yn gwneud llwyth o bethau allgyrsiol ag ymysg hynna i gyd oedd ‘na rhywbeth ‘di dod ynglŷn â’n rhywioldeb i”.

“O’dd ‘yn ffrindie i o gwmpas yn gefnogol, nai byth wbod os oedden nhw’n gwbod achos dydy o ddim ‘di bod yn rhwbath nathon ni siarad amdana fo.  Dwi yn difaru hynna.  Mi fyswn ni wedi licio bod bach mwy agored efo’n ffrindie i”.

Dywedodd Tomos, sy’n byw yng Ngwalchmai: “Dechreuodd yr iselder yn iawn tua 2005.  Collish i cefndar, wedyn rhyw flwyddyn a hannar wedyn gollish i gefndar arall.  Wedyn, o’n i’n dal bob dim i fewn.  Wedyn, dwy flynedd yn ôl nath o really hitio fi ‘lly”.

“O’n i’n jyst colli ‘mynadd, o’n i’n blino, o’n i’n fatha to’n ni’m isho deffro’n bora.  Don i ddim ‘di gal digon o gwsg ond mi o’n i.  O’n i’n colli tempar ar ddim byd”.

Mae sefydliadau megis Tir Dewi a Sefydliad DPJ yn cynnig darpariaeth 24 awr saith diwrnod yr wythnos yn arbennig ar gyfer pobl o gymunedau amaethyddol.

Dywedodd Gethin: “Ar ôl fy mhrofiadau i, rydw i bellach wedi ymuno gyda sefydliad DPJ fel ymddiriedolwr a’n nod ni yw i helpu ffermwyr ifanc ar hyd Cymru i siarad yn fwy agored am eu hiechyd meddwl.  Felly plis, codwch y ffon”.

Mae modd cysylltu gyda Tir Dewi ar 08001214722 a Sefydliad DPJ ar 08005874262.

Mae cymorth ar gael ar wefan S4C os yw cynnwys yr erthygl hon yn codi pryderon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.