Chwaraewr pêl-droed Wrecsam James McClean yn cael ei asesu ar ôl bod mewn damwain car
Mae chwaraewr pêl-droed Wrecsam James McClean yn cael ei asesu gan feddygon ar ôl bod mewn damwain car.
Fe wnaeth Clwb Pêl-droed Wrecsam gadarnhau bod chwaraewr yn rhan o "wrthdrawiad un car" fore Mercher.
Ychwanegodd fod y chwaraewr wedi cyrraedd y clwb ac yn cael ei asesu gan feddygon fel rhagofal.
Roedd McClean, sydd yn gapten y clwb yn gyrru ar ei ffordd i'r clwb ar gyfer sesiwn hyfforddi pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A534 ger Clwb Golff Wrecsam, meddai un llygad tyst.
Rhannodd un person llun o'i gar yn cael ei symud o'r ffordd ar X.
Inline Tweet: https://twitter.com/DonPaulotti/status/1882009181873737963
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw i adroddiad o wrthdrawiad toc cyn 9.00
"Ychydig cyn 09.00 roeddem wedi derbyn adroddiad o wrthdrawiad un cerbyd ar yr A534 yn Wrecsam, ger Clwb Golff Wrecsam.
"Roedd swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn bresennol, ac roedd y ffordd wedi ei flocio tan i'r cerbyd gael ei symud ychydig cyn 10.00.
"Nid oedd unrhyw anafiadau difrifol."
Mae Wrecsam yn chwarae yn erbyn Birmingham yn y Cae Ras nos Iau.
Birmingham sydd ar frig y gynghrair tra bod Wrecsam yn y drydydd safle.