Newyddion S4C

Beth Nessa? Seren Gavin and Stacey yn rhan o ddathliadau canrif o'r Rhagolygon Llongau

28/12/2024
Nessa / PA

Mae cymeriad Nessa o'r rhaglen Gavin and Stacey yn un o nifer o leisiau enwog a fydd yn darllen hen fersiynau o'r Rhagolygon Llongau (Shipping Forecast) ar BBC Radio 4 ar Ddydd Calan i ddathlu 100 mlynedd o'r rhagolygon tywydd.

Bydd Nessa, sy'n cael ei chwarae gan yr actores Ruth Jones, yn ymddangos yn nathliadau’r canmlwyddiant ynghyd ag enwogion fel Eddie Grundy o’r Archers.

"Mae gan Nessa hanes eithaf lliwgar ac roedd un o'i swyddi ar y moroedd mawr," meddai Jones.

"Roedd y Rhagolygon Llongau bob amser yn bwysig iawn ac yn ddefnyddiol iddi."

Bron i 20 mlynedd ers pennod gyntaf Gavin and Stacey, fe ddaeth y gyfres boblogaidd i ben gyda'r bennod olaf wedi ei ddarlledu ar Ddydd Nadolig.

Dyma'r tro olaf i Nessa, Smithy, Gavin, Stacey, Bryn a llu o gymeriadau poblogaidd eraill gael eu gweld ar y sgrin fach.

Cafodd y rhaglen awr a hanner ei gwylio gan 12.3m o bobl ar y BBC, y gynulleidfa fwyaf ar ddydd Nadolig ers 2008.

Bydd Jones yn ail-ymweld â'i chymeriad Nessa ar ddiwrnod arbennig ar gyfer y Rhagolygon Llongau.

Mae'r Rhagolygon Llongau yn cael ei gynhyrchu gan y Swyddfa Dywydd ar ran Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau.

Fe’i darlledwyd gyntaf ar 1 Ionawr 1924 fel bwletin tywydd o’r enw Shipping Weather cyn symud i’r BBC flwyddyn yn ddiweddarach.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.