
Y Gyllideb: Yr heriau sy'n wynebu ward fwyaf difreintiedig Gwynedd

Y Gyllideb: Yr heriau sy'n wynebu ward fwyaf difreintiedig Gwynedd
Roedd y Gyllideb ddydd Mercher yn gyfle i ddechrau'r broses o adfer cymunedau ar draws Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, yn ôl y Canghellor Rachel Reeves.
Gohebydd Newyddion S4C, Liam Evans, sydd wedi treulio cyfnod ar un stad o dai yng Nghaernarfon i glywed gan drigolion yno am yr heriau sy’n eu wynebu wrth i’r llywodraeth amlinellu eu gweledigaeth:
Mae ystadegau yn cynnig darlun moel o’r heriau i bobl sy’n byw yn ward Peblig, Caernarfon, lle ddewch chi o hyd i stad tai sy'n cael ei hadnabod yn lleol fel Ysgubor Goch.
Dyma’r ward fwyaf difreintiedig yng Ngwynedd, sydd hefyd yn un o'r 10% mwyaf difreintiedig drwy Gymru.
Ond yr hyn nad yw’r ffigyrau yn ei ddangos ydy’r galon fawr a’r gymuned sy’n bodoli yma hefyd
“Mae pawb yn neud efo’i gilydd yma”, meddai Sharon Jones sy’n byw ar y stad ers 1962.
“Ma’n dda fela - mae pawb yn tynnu at ei gilydd”, meddai.

Ond o dreulio rhai oriau yn crwydro strydoedd y stad a siarad efo trigolion mae’n glir bod gan lawer eu heriau a'u brwydrau personol.
Wedi ei fagu yn ‘Sgubs’, mae Lee Talbot bellach wedi rhoi gorau i’w waith ac yn treulio rhan fwyaf o’i amser yn gofalu am ei fam, sy’n sâl.
“Ma’n anodd, ia”, meddai.
“Ma’n experience totally gwahanol i weithio – edrych ar ôl mam fy hun.
“Mae o’n galed achos mae hi’n cal ups and downs ac mae’n effeithio ar y mental health i rai”.

Wrth drafod yr heriau i bobl sy’n byw yn y cyffiniau mae’n dweud bod yr angen am waith a buddsoddiad yn fawr.
Ar gyfartaledd mae’r gyfradd ddiweithdra o fewn y ward ychydig yn uwch na’r ffigwr cenedlaethol.
Ond mae’r rhesymau dros hynny'n gymhleth ac yn amrywio o gartref i gartref.
Un rheswm i rai yw gofal plant, ac o fewn y ward mae dros 30% o drigolion o dan 19 oed.
Gyda phedwar o blant i ofalu amdanyn nhw, mae Alison Fôn sy’n byw ar y stad yn dweud yn blaen bod hi'n well ei byd yn peidio gweithio ar hyn o bryd.
“Dwi ‘di gweithio ers wyth mlynedd... wedi stopio rhyw dair blynedd yn ôl... ella bod o well peidio gweithio”
“Yndi ma’n swnio’n awful ond y ffordd dwi’n gweld o ar y funud, dwi ddim yn talu rhent, mond bach o Council tax bob wythnos.. ond na... mae o well off peidio gweithio... does ‘na ddim help i bobl sydd yn gweithio”.

Er yn cydnabod bod hyn yn ddadleuol mae hi’n dweud dyma’r ffordd orau o oroesi.
“Bills, mae rheini yn stacio, electric, gas, bwyd, ar ben hynna ac yna i gadw’r plant.
“Tripiau ysgol, dillad, sgidiau newydd”.
Mae hi'n dweud bod cuddio’r heriau ariannol rhag y plant yn anodd iawn, yn enwedig o gwmpas y Nadolig.
Ac, i lawer o'r rheini sydd yn gweithio, cwyno mae nhw nad yw cyflogau yn mynd yn bell.
Er bod chwyddiant rŵan yn is na’r targed cenedlaethol, mae nifer o nwyddau yn dal i gostio mwy.
Ganol y prynhawn ac mae Dion a Deio newydd orffen shifft yn adran ailgylchu y cyngor.
“Mae cyflogau ella yn codi dipyn bach ond mae bob dim arall yn codi mwy”, meddai Dion.
“Dwi’n talu i fyw adra a dwi’n talu keeps fi i mam a dad ia, ond mae nhw dal yn stryglo”.
“Mae bil bwyd nhw yn massive diwedd yr wsos”.
Yn ôl Deio “ma’n broblem ac mae angen i gyflogau newid” a chodi.
Wrth grwydro strydoedd y stad mi glywch chi am y prosiectau hanfodol sy’n cefnogi'r cymunedau.

Yng nghanolfan Noddfa, mae cynlluniau sy’n cynnig cymorth i bobl sy’n ei gweld hi’n anodd, gan gynnwys cinio am ddim o bryd i’w gilydd.
I lawer, mae hynny'n achubiaeth.
Wrth siarad hefo Sharon Jones sydd wedi byw ar y stâd ers 1962, mae hi’n dweud bod hi wedi gweld lot fawr o newid.
Ond ar ddechrau'r gaeaf mae hi’n poeni am y cyfnod sydd i ddod.
“Ma raid chi watshiad be da chi’n gwario ar fwyd, gwatshiad be da chi’n gwario ar gas ac electric ac yna ceir a petrol”
“Mae plant isho stwff wedyn... ond mae nhw gorfod mynd heb.
“Dwn i’m be fedra nhw neud.. fydd raid ni jest roi mwy o ddillad mlaen yn y gaeaf, mwy o flancedi i gadw’n gynnes ia”.

O ran ystadegau, mae ward Peblig yn wynebu mwy o heriau na nifer o ardaloedd eraill yng Nghymru.
Ond o dreulio cyfnod yn siarad hefo trigolion fe welwch chi fod yr ysbryd gymunedol yn gryf yma a bod hynny yn gynhaliaeth i nifer.
Mae straeon y stad yn cael eu hadlewyrchu ar hyd a lled cymunedau drwy Gymru.
Yn y gyllideb ddydd Mercher, mynnodd y llywodraeth y bydd y cynlluniau newydd yn gyfle i drawsnewid cymunedau fel yr un yma yng Nghaernarfon.
Ond i drigolion Peblig, mae ‘na deimlad y gallai hi gymryd blynyddoedd cyn y bydd unrhyw fudd sylweddol yn dod â newid i aelwydydd.