Newyddion S4C

Cyhuddo dynes wedi i dân gwyllt gael ei wthio trwy flwch llythyrau

29/10/2024
Heddwas

Mae dynes ifanc wedi ei chyhuddo o geisio cynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd, ar ôl i dân gwyllt gael ei wthio drwy flwch llythyrau.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i dŷ ym Mrychdyn, Sir Y Fflint ddydd Llun ar ôl adroddiadau bod tân gwyllt wedi cael ei osod mewn blwch llythyrau.

Mae Ellie Condron, 19 oed o'r Wyddgrug wedi ei chyhuddo o geisio cynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd a bygythiadau i ddifrodi neu ddinistrio eiddo.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Mawrth.

Bydd y gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 29 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.