Newyddion S4C

Traffig dwy ffordd ar Bont y Borth i ail-agor

29/10/2024

Traffig dwy ffordd ar Bont y Borth i ail-agor

Fe fydd traffig dwy ffordd ar Bont y Borth yn ail-agor ddydd Sadwrn. 

Fe fydd y terfyn pwysau hefyd yn cael ei gynyddu i 40 tunnell, gyda gwaith cynnal a chadw ar y bont yn ail-ddechrau ym mis Chwefror.

Mae gwaith cynnal a chadw ar y bont wedi bod yn cael ei wneud yn rheolaidd ers mis Hydref 2022.

Fe gododd peirianwyr bryderon am sefydlogrwydd y bont grog bryd hynny.

Fe gafodd 'risgiau difrifol' eu nodi, gyda pheirianwyr yn argymell cau'r bont ar unwaith i'r holl draffig. 

Fe agorodd y bont yn mis Chwefror 2023 ar ôl bod ar gau am bedwar mis, ond ers hynny mae hi wedi bod yn cau yn rhannol am gyfnodau wrth i waith ail-ddechrau.

Fe gafodd y gwaith o osod rhodenni newydd ar y bont ei ddechrau ym mis Medi y llynedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oeddent yn bwriadu cau'r bont yn gyfan gwbl yn ystod y gwaith, gyda'r gwaith wedi'i gynllunio i sicrhau y bydd un lôn yn parhau ar agor bob amser. 

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru fod disgwyl i'r 'holl waith angenrheidiol' fod wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Awst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.