Pontypridd: Heddlu’n darganfod corff Joanne Jones
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff Joanne Jones, 39 oed, oedd wedi bod ar goll o’i chartref ers, dydd LLun 21 Hydref.
Dywedodd Heddlu De Cymru fore dydd Sul eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff ac wedi rhoi gwybod i deulu Mrs Jones a swyddfa’r crwner lleol.
Yn ddiweddarach fe wnaeth y llu gadarnhau taw corff Mrs Jones a ganfuwyd.
Mae ei theulu wedi mynegi eu “diolch i’r holl asiantaethau ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi helpu i ddod o hyd iddi dros yr wythnos ddiwethaf”.
Maen nhw bellach wedi gofyn am breifatrwydd “fel y gallant ddechrau dod i delerau â'u colled”.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Emma Hampton: “Rydw i eisiau mynegi fy nghydymdeimlad i deulu Joanne ar adeg sy’n drist iawn iddyn nhw.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys ac aelodau’r cyhoedd a gynorthwyodd yn ein hymdrech chwilio dros yr wythnos ddiwethaf.
“Gallaf hefyd gadarnhau nad ydym yn trin marwolaeth Joanne fel un amheus.”