Tro pedol dros waith celf dadleuol yn harbwr Aberaeron

26/10/2024
celf aberaeron

Mae cynlluniau i osod darn o gelf dadleuol mewn harbwr yng Ngheredigion i goffau ymadawiad 36 o Gymry lleol i America fwy na 200 mlynedd yn ôl, wedi eu tynnu’n ôl.

Mae rhai beirniaid yn dweud y byddai’r cynllun wedi bod yn brosiect gwastraffus fyddai wedi ei wthio ar y dref.

Gofynnodd Cymdeithas Cymru – Ohio 2018 am ganiatâd gan Gyngor Sir Ceredigion i leoli’r gwaith celf, 'Y Ferch Goll', ger yr hen Ganolfan Groeso ar bier gogleddol harbwr Aberaeron.

Cafodd y gwaith ei ddylunio gan Sebastien Boyesen Design Consultancy i goffau ymadawiad 36 o Gymry lleol o ardal Cilcennin yng Ngheredigion i Ohio yn 1818, gan adael o harbwr y dref i ddianc rhag bywyd o dlodi a gormes.

Dywedodd datganiad cefnogol gyda’r cais: “Roedd yr ymfudwyr mentrus yn dioddef gormes a thlodi oherwydd cynnydd yn y boblogaeth, trethi a rhenti uchel a chyfres o gynaeafau gwael yn 1815 a 1816.

“Roedd Ohio yn ymddangos fel y cyfle am fywyd newydd. Cychwynnodd teuluoedd cyfan ar y daith beryglus hon, gan adael Aberaeron i ddechrau i ddal llong fwy yn Lerpwl.

“O’r 36 a gychwynnodd y daith, cyrhaeddodd pob un ohonynt America’n ddiogel ar wahân i un ferch ifanc, o’r enw ‘Mary’, a’i stori hi y penderfynon ni ganolbwyntio arni."

Trwy drafod gyda’r grŵp llywio, daethpwyd i’r casgliad mai ‘Mary’ fyddai’r cymeriad canolog yn natblygiad y gwaith celf.

Ond nid oedd pob ymateb i'r gwaith celf arfaethedig yn gadarnhaol, gyda phryderon am gost, effaith weledol, a newid mewn dyluniad.

Mae ymddiriedolwyr cymdeithas hanes lleol Cymdeithas Aberaeron (CAS) wedi gwrthwynebu’r cynllun, gan gefnogi “gwrthwynebiad cryf y cyhoedd y bydd y strwythur yn cuddio golygfa eiconig yr harbwr allan i’r môr ac yn arbennig ein machlud hyfryd”.

Dywedodd hefyd fod y raddfa'n amhriodol ac y byddai'r dyluniad yn cael ei ddatgelu o onglau penodol yn unig, gan adael haenau hyll i'w gweld o'r rhan fwyaf o leoedd.

Gorffennodd: “Roedd ymddiriedolwyr y gymdeithas yn rhan o drafodaethau cynnar ynghylch ffurf y coffâd. Bryd hynny roedd y cynnig ar gyfer cerflun o gês teithiol o'r 19eg ganrif. 

"Byddai rhywbeth o’r natur hwnnw yn gofeb llawer mwy priodol ar gyfer ein tref harbwr hanesyddol.”

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.