Caerfyrddin: Arestio dyn ar ôl darganfod planhigion canabis gwerth £870,000
Mae dyn wedi cael ei arestio wedi i blanhigion canabis gwerth £870,000 gael eu darganfod mewn adeilad ar un o brif strydoedd tref Caerfyrddin.
Mae Jurgen Kodra, 30, wedi cael ei gyhuddo o gynhyrchu cyffur Dosbarth B, sef canabis.
Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys sicrhau gwarant mewn eiddo ar Heol y Brenin yng Nghaerfyrddin ddydd Mercher.
Fe gafodd 930 o blanhigion canabis eu cymryd gan yr heddlu, a oedd werth dros £870,000.
Ymddangosodd Kodra yn Llys y Goron Llanelli gan bledio yn euog.
Mae'n parhau yn y ddalfa tan y bydd yn cael ei ddedfrydu.
Ychwanegodd yr heddlu y bydd trigolion yn gweld mwy o weithgaredd gan yr heddlu wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Richard Saunders: "Rydym wedi ein hymrwymo i wneud yr ardal yr ydym yn gyfrifol amdani yn ymwybodol o grwpiau sy'n cynhyrchu cyffuriau anghyfreithlon, ac mae ein gwaith yma yng Nghaerfyrddin yn golygu fod maint sylweddol o ganabis wedi ei gymryd allan o'r gadwyn gyflenwi.
"Fe fydd Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i dargedu y rhai sy'n cyflenwi cyffuriau yn ein cymuned a'r digwyddiadau perthnasol."