Wrecsam: Tri o bobl wedi eu hanafu mewn tân
25/10/2024
Cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu hanafu mewn tân mewn fflat yn Wrecsam nos Iau.
Cafodd dwy injan dân eu hanfon i'r digwyddiad ar Deras Beeston ger Ffordd y Cefn ychydig cyn 18:30.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod pobl wedi cael eu symud allan o fflatiau cyfagos yn ystod y digwyddiad.
Llwyddodd diffoddwyr tân i ddiffodd y tân ychydig yn ddiweddarach ac roedd dan reolaeth erbyn 19:45.