Newyddion S4C

Dynes yn gaeth ben i waered am saith awr ar ôl ceisio casglu ffôn

ITV Cymru 22/10/2024
stori awstralia itv.png

Cafodd dynes yn Awstralia ei dal yn gaeth ben i waered am saith awr ar ôl disgyn dair metr rhwng dwy graig, wrth iddi geisio casglu ei ffôn.  

Roedd Matilda Campbell, 23, yn cerdded gyda’i ffrindiau ar dir preifat yn Laguna, tua 75 milltir o Sydney, pan wnaeth hi ollwng ei ffôn. 

Wrth iddi geisio cael gafael arni, fe lithrodd, a chwympo rhwng dwy garreg fawr. 

Ar ôl ceisio'i hachub am awr, methodd ei ffrindiau â’i chyrraedd, ac fe wnaethon nhw gysylltu â’r gwasanaethau brys.

Image
Picture 1.jpg
Llun: Ambiwlans DCN

Fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans gydweithio gyda thimoedd eraill er mwyn achub Matilda Campbell.

Yn ôl y parafeddyg Peter Watts, roedd y digwyddiad yn un anarferol ac unigryw.

“Mewn deng mlynedd fel parafeddyg achub, 'dw i 'rioed wedi delio ag achos fel hyn. Roedd hi’n sefyllfa heriol ond werth e yn y diwedd.”

Image
Picture 1.jpg
Llun: Ambiwlans DCN

“Roedd gan bob asiantaeth rôl, ac fe weithion ni yn dda gyda’n gilydd i gyrraedd y claf mewn pryd,” meddai.

Cafodd Ms Campbell ei rhyddhau yn ddiogel gyda chrafiadau bychain a chleisiau. 

Ond, ni chafodd hi ei ffôn yn ôl, yn ôl y gwasanaeth ambiwlans.

Dywedodd Ms Campbell ei bod yn iach ac yn ddiogel.

“Dw i wastad yn un sy’n cael damweiniau, a ma’ hyn yn profi hynny.”

“Dwi’n iawn, ac yn gwella o ambell anaf - felly dim mwy o ddringo creigiau i fi!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.