
Osgoi gwastraff bwyd: Tips Chris 'Flamebaster' Roberts
A hithau’n Wythnos Ailgylchu, mae’r cogydd o Gaernarfon, Chris ‘Flamebaster’ Roberts eisiau annog mwy fyth o bobl ifanc i ailgylchu eu gwastraff bwyd.
Mae nifer y bobl ifanc rhwng 18-24 oed sy’n ailgylchu wedi codi o 59% yn 2023, i 74% yn 2024.
Er bod 80% o bobl Cymru yn ailgylchu eu gwastraff bwyd, mae nifer y bobl ifanc sy’n ailgylchu yn llai na’r oedran cenedlaethol ar gyfartaledd, medd ffigyrau diweddaraf mudiad Cymru yn Ailgylchu.
Erbyn hyn mae Chris yn dad i bedwar o blant ifanc pump oed, tair oed, un flwydd oed a thair wythnos oed. Mae'n awyddus i helpu pobl ifanc i wneud y mwyaf o’r bwyd sydd ar gael iddyn nhw.
“Falle bod gan pawb awareness o ailgylchu plastics a carboard a metel, ond yn anghofio am fwyd,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

Felly sut allwn ni ailgylchu ein bwyd yn well?
“Cadw fo’n syml,” meddai’r Flamebaster.
Mae’r cogydd yn dweud y dylai pobl droi at ryseitiau “hawdd” all gynnwys llai o gynhwysion er mwyn ceisio creu llai o wastraff bwyd.
“Defnyddio gweddillion.”
Os oes gweddillion bwyd gennych chi, ceisiwch eu hail-ddefnyddio o fewn ryseitiau bwyd gwahanol – “Paid â gadael i bethau mynd yn wastraff,” meddai.
“Dwi’n defnyddio tatws a llwyth o root veg i greu curries mild i’r plant. Defnyddia unrhyw veg a ‘chydig o speisis a blendio fo i saws a mae’r plant yn byta' veg heb iddyn nhw hyd yn oed sylwi.”
Peidiwch â gor-brynu nwyddau os oes ‘na beryg o “fwydo’r bin,” mae Chris Roberts yn rhybuddio.
“Paid â phrynu llwyth o fwyd jyst i wastio fo – os ti’n wastio llwyth o fwyd, ti’n wastio llwyth o bunnoedd,” meddai.
'Ailgylchwch'
Daw galwadau’r cogydd fel rhan o ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Nod yr ymgyrch yw annog mwy o bobl ifanc i wneud y mwyaf o’r bwyd sydd ganddynt, gan ailgylchu unrhyw beth na ellir ei fwyta.
Dywedodd Angela Spiteri, uwch reolwr ymgyrchoedd Cymru yn Ailgylchu: “Yn anffodus, mae chwarter y bin sbwriel cyffredin yn llawn bwyd, a gellid bod wedi bwyta dros 80% ohono.
“Mae hyn yn costio £84 y mis i'r teulu cyffredin o bedwar, gan ddod i gyfanswm o £800m y flwyddyn ledled Cymru.”
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: “Byddwn yn annog pawb i feddwl nid yn unig am ailgylchu lle bynnag y gallwch, ond ceisio lleihau faint o wastraff rydych chi'n ei greu yn y lle cyntaf.
“Mae hyn yn rhan bwysig o'n taith i greu economi gylchol a pharhau i ddefnyddio adnoddau am gyn hired â phosibl.
"Mae pawb wedi cyfrannu at helpu Cymru i fod y wlad ail orau yn y byd am ailgylchu. Diolch yn fawr i bawb am eich ymdrechion,” meddai.