Y BBC yn ymddiheuro wedi i’w ap tywydd ddweud bod ‘corwynt’ yng Nghymru

10/10/2024
Tywydd Caernarfon

Mae’r BBC wedi ymddiheuro ar ôl i’w ap tywydd ddweud bod corwynt yn taro’r Deyrnas Unedig.

Fore dydd Iau roedd yr ap yn dangos neges ‘Gwyntoedd lefel corwynt’ yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU.

Roedd neges yn nodi: “Rydym yn cael problemau gyda'n data rhagolygon. Rydym yn gweithio i'w ddatrys.”

Dywedodd y gorfforaeth eu bod nhw’n “ymddiheuro” am y gwall.

Mewn neges ar wefan X, Twitter gynt, dywedodd y meteorolegydd Matt Taylor: “Peidiwch â phoeni, bobl - nid yw Corwynt Milton wedi dod i’r DU!

“Mae gwall data wedi bod rhwng ein cyflenwyr a’r ap/ar-lein. Mae pobl yn gweithio i ddatrys y broblem.

“Does dim angen mynd i banig a phrynu pren a chanhwyllau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.