Newyddion S4C

Plant yn wynebu risg 'isel iawn' o farw o Covid-19

Mail Online 09/07/2021
Dwylo

Mae ymchwil newydd yn dangos bod risg "isel iawn" y gallai plant farw o Covid-19, gyda pheryg bod un o bob 500,000 yn marw o'r haint.

Mae plant gyda chyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli, fel clefyd y galon, canser ac anableddau difrifol, â siawns uwch o fod yn ddifrifol wael o'r feirws.

Daw'r data yn dilyn ymchwil gan dair prifysgol ym Mhrydain, a fydd yn cyflwyno eu gwaith i'r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), Sefydliad Iechyd y Byd ac Adran Iechyd y DU, meddai'r Mail Online.

Mae trafodaethau yn parhau ynghylch brechu plant yn erbyn Covid-19, gyda'r JCVI a Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Gyfer Argyfyngau eisoes wedi lleisio eu pryderon am gyflwyno brechiadau i blant hyd nes y bydd mwy o ddata ar ddiogelwch fod ar gael.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.