Euro 2020: Lloegr yn cyrraedd rownd derfynol y bencampwriaeth

NS4C

Mae Lloegr wedi curo Denmarc mewn gêm gynderfynol ym mhencampwriaeth Euro 2020 o 2-1 nos Fercher. 

Ond, nid oedd y 90 munud cyntaf yn ddigon i wahanu'r ddau dîm a bu'n rhaid i Loegr aros tan amser ychwanegol i sicrhau ei lle yn y rownd derfynol.

Mikkel Damsgaard ddaeth a gôl gyntaf y gêm i Ddenmarc, gyda Simon Kjær yn cynorthwyo gôl i Loegr diolch i bwysau gan Raheem Sterling. 

Yn ystod amser ychwanegol, fe wnaeth capten Lloegr Harry Kane sicrhau buddugoliaeth i'r garfan gydag ail gôl i'r tîm. 

Fe fydd Lloegr yn dychwelyd i Stadiwm Wembley ddydd Sul wrth iddyn nhw wynebu'r Eidal yng ngêm derfynol y bencampwriaeth.