Newyddion S4C

Rhybudd i beidio nofio yn Afon Gwy yn 'siomedig'

29/07/2024

Rhybudd i beidio nofio yn Afon Gwy yn 'siomedig'

Mae'n dref sydd fwyaf adnabyddus am ei llyfrau.

A thu hwnt i'r cloriau mae byd natur hefyd yn atyniad mawr gan gynnwys yr afon sy'n llifo drwyddi.

"Mae'r afon yn chwarae rhan hanfodol yn y dref o ran twristiaeth.

"Mae pobl yn dod yma i gerdded, nofio a chanwio ar yr afon.

"Mae'n rhan bwysig iawn.

"Mae'n bwysig bod enw da'r afon yn aros yn gryf o ran economi lleol."

Rŵan mae gan drigolion Y Gelli reswm i fod yn gandryll gan eu bod nhw wedi cael cyngor i beidio â phlymio i'r dŵr yma bellach.

Dim ond fis diwetha cafodd y rhan yma o Afon Gwy statws ymdrochi arbennig.

Yr afon gyntaf yng Nghymru i gael statws o'r fath.

Ond fis yma, mae profion wedi dangos lefel uchel o facteria yn y dŵr felly mae nofwyr wedi cael rhybudd i beidio â mynd i mewn.

Mae Rose yn byw'n lleol ac yn dod yma efo'i phlant yn aml ond yn ailfeddwl rŵan ynglŷn â threulio amser yn y dŵr.

"Ni lawr fan hyn drwy'r amser yn ystod gwyliau'r haf.

"Mae 'da fi fachgen wyth oed sy'n caru nofio.

"Ni'n canwio. Mae 'da fi padl-fwrdd.

"Ni fan hyn yn ddyddiol, fel arfer.

"Nawr, does neb yma ar ôl gweld bod y dŵr mor frwnt.

"Gyda lefel y bacteria mor uchel ynddo.

"Mae'n siomedig dros ben.

"Ar ôl gweld hwnna ni'n deall ei fod yn werthfawr bod gyda ni'r statws nofio.

"Nawr, mae angen iddynt brofi fe. Mae hynna'n beth da.

"Gobeithio bydd e'n gwella.

"Gobeithio bydd y cwmniau, ffermwyr a gwleidyddion yn ymateb a byddwn ni'n gweld gwellhad yn safon y dŵr."

Un arall sy'n hoff o ymdrochi yn yr afon ydy'r Aelod Senedd lleol, Jane Dodds.

"Mae'n galw am fwy o arian i daclo'r broblem.

"Mae o efo Cyfoeth Naturiol Cymru i weld yn union sut 'dan ni'n gallu gweld y camau sydd am lanhau'r afon.

"Mae'n rhaid iddynt gael fwy o arian.

"Mae hyn ar ben be maen nhw'n gwneud.

"Os yw'r Llywodraeth yng Nghymru isio gweld afonydd yn lanach mae'n rhaid rhoi'r arian mewn i sicrhau bod mwy o bobl i brofi a rhoi hyder yn ôl i bobl fel fi, y gwleidyddion a phobl lleol."

Mi oedd ansawdd dŵr yn un o bynciau trafod Llywodraeth Cymru yn y Sioe Frenhinol wythnos yma a hynny tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru'n dal i gynnal profion i ddod o hyd i darddiad y llygredd yn Afon Gwy.

Mae'n broblem fan hyn, yn ogystal ag afonydd eraill a moroedd.

Am rŵan, aros mae nofwyr am arwydd y cawn nhw fynd yn ôl i'r dŵr.

Wrth iddyn nhw, yn y cyfamser, fwynhau'r afon mewn ffyrdd gwahanol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.