
Lansio'r ddol Barbie 'ddall' gyntaf erioed
Mae cwmni teganau Mattel wedi lansio’r ddol Barbie ddall gyntaf erioed.
Nod y Barbie newydd yw cynrychioli merched a menywod sydd â nam gweledol, medden nhw ac fe ddaw fel rhan o gyfres o ddoliau diweddar sydd yn dathlu anableddau – gan gynnwys Barbie â Syndrom Down a Barbie mewn cadair olwyn.
Mae’r ddol yn ymddangos fel ei bod yn syllu mewn modd penodol all fod yn nodweddiadol o bobl ddall, ac mae ganddi hefyd ffon a sbectol haul.
Mae’r Barbie hefyd wedi ei dylunio ar gyfer plant dall gan sicrhau ei fod yn fwy hwylus iddyn nhw chwarae gyda’r tegan.

'Anhygoel'
Y cyflwynydd ac actifydd dall, Lucy Edwards oedd y person cyntaf yn y DU i gael chwarae â’r Barbie newydd.
“Os allai Barbie fod yn ddall, mae hynny’n golygu fy mod i’n gallu bod yn ddall hefyd ac mae hynny mor bwysig o ran hunan hyder pobl ifanc heddiw," meddai.
Fe gollodd Ms Edwards ei gallu i weld gyda’i llygad dde yn 11 oed yn sgil cyflwr genetig prin, cyn iddi fynd yn gwbl ddall yn 17 oed.
“Doeddwn i ddim yn gweld fy hunain yn cael fy nghynrychioli ac roedd hwnna’n golygu fy mod i’n ofn bod yn ddall," meddai.
Mae’n dweud fod cael y math yma o gynrychiolaeth bellach yn “anhygoel.”
Fe wnaeth Mattel gydweithio gyda sawl elusen cyn creu’r Barbie newydd, gan gynnwys Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (‘Royal National Institute of Blind People’) a Sefydliad Americanaidd er lles Pobl Ddall (‘American Foundation for the Blind’).
Dywedodd Debbie Miller o Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall ei bod yn “hollbwysig” ymgynghori â phobl sy'n byw â phroblemau golwg cyn creu teganau o’r fath ar eu cyfer.