Rhybudd i deithwyr yn dilyn ‘gwrthdrawiad difrifol' yn Abertawe
21/07/2024
Heddlu.
Mae Heddlu De Cymru yn rhybuddio teithwyr i osgoi ardal y Mwmbwls yn Abertawe yn dilyn “gwrthdrawiad difrifol”.
Mae’r ffordd wedi ei chau rhwng cylchdro tafarn y White Rose a maes parcio Verdi.
Dywedodd yr heddlu fe fydd y ffordd ar gau am beth amser.
Mae’r llu wedi cynghori gyrwyr i osgoi’r ardal oherwydd bod disgwyl tipyn o oedi oherwydd y ddamwain.