Carcharu dyn wnaeth adael menyw 'ar ochr y ffordd i farw' wedi gwrthdrawiad

17/07/2024

Carcharu dyn wnaeth adael menyw 'ar ochr y ffordd i farw' wedi gwrthdrawiad

Mae dyn a wnaeth ffoi o safle gwrthdrawiad gan adael menyw yno gydag anafiadau angheuol wedi’i garcharu. 

Bu farw Demi Leigh Mabbitt o Aberfan yn 25 oed o'i hanafiadau, wythnos ar ôl y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar Heol Abertawe ym Merthyr Tudful ar 5 Ebrill am tua 23:45.

Cafodd Cameron Jones, 30 oed o Ferthyr Tudful, ei ddedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful dydd Mercher. Cafodd ei atal rhag gyrru am yr un cyfnod yn ogystal.

Roedd Mr Jones yn gyrru cerbyd Audi ar hyd yr heol cyn iddo wrthdaro â wal. 

Penderfynodd ffoi’r safle gan osgoi cael ei arestio am dair wythnos wedi’r digwyddiad. 

Cafodd ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus; achosi marwolaeth drwy yrru cerbyd heb drwydded neu heb yswiriant, peidio â stopio yn dilyn gwrthdrawiad, methu â chysylltu gyda’r heddlu yn dilyn gwrthdrawiad ac achosi marwolaeth tra ei fod wedi’i wahardd rhag gyrru. 

Dywedodd y swyddog arbenigol, Ditectif Ringyll Hobrough o Heddlu De Cymru: “Roedd Demi Mabbitt yn gorwedd ar ochr y ffordd yn marw pan benderfynodd Jones ffoi heb drio ei helpu. 

“Mae marwolaeth drasig Demi wedi ysgwyd y gymuned gyfan.” 

Roedd yn disgrifio ymateb Cameron Jones i’r gwrthdrawiad fel un “gwarthus” gan ddweud y bydd ei ddedfryd ddydd Mercher yn golygu na fyddai’n gallu achosi niwed pellach. 

Teyrnged

Yn dilyn ei ddedfryd ddydd Mercher, dywedodd teulu Demi Mabbitt bod “heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd arall” ar eu taith o alaru. 

“Roedd Demi dim ond yn 25 oed, roedd ei holl fywyd ganddi i fyw. 

“Hi oedd y person mwyaf caredig, mwyaf anhunanol y byddech chi erioed wedi cyfarfod. 

“Roedd ganddi'r galon fwyaf a’r wên harddaf.

“Rydym yn eich caru chi am byth Dems."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.