Cyn-löwr yn cofio am Frwydr Orgreave
Cyn-löwr yn cofio am Frwydr Orgreave
"Sa i'n gwybod beth o'dd y bobl lleol yn meddwl amdano fe ond o'dd e'n ddigon i hala ofn ar bawb.
"O'dd pawb yn sgathru ac yn gorfod rhedeg bant.
"Daethon nhw'n mewn a'r batons ac yn bwrw.
"Ta pwy o'dd 'na, os o't ti ar y llawr, o't ti'n cael wad.
"O'n nhw'n bwrw pawb."
Ym mis Mehefin 1984, roedd Alan Jones, glöwr 26 oed yn un o filoedd o lowyr o'dd yn streicio yn erbyn cynllun cau pyllau y Llywodraeth Doriaidd ar y pryd.
Teithiodd o'i gartref ym Mhontyberem i Orgreave yn Swydd De Efrog i ymuno a llinell biced.
Yno, cafodd ei ddal yn y gwrthdaro ffyrnig rhwng yr heddlu a'r glowyr.
Mae'r diwrnod yn fyw yn y cof a deugain mlynedd ers y streic mae wedi cytuno i fynd nôl i Orgreave.
Mae'n chwilio am atebion am be ddigwyddodd a pham.
"Mae eisiau rhywbeth cael ei wneud yn glou.
"Mae 40 mlynedd wedi mynd a dyw hi ddim yn rhy hwyr i gael e.
"Fi'n credu bydd rhaid i rywun dalu am hwn fan hyn.
"Ta pwy o'dd wedi rhoi'r heddlu i wneud be wnaethon nhw ar y diwrnod.
"O'n i'n ffaelu credu'r peth."
Bwriad y glowyr oedd amharu ar y gwaith o gludo golosg o Orgreave i ffwrneisi dur Scunthorpe.
Teithiodd miloedd ohonyn nhw i ymuno a'r brotest.
Ond roedd hyd at 6,000 o blismyn ar ddyletswydd yno yn eu disgwyl ac fe wnaeth pethau droi yn gas.
Mae un cyn-blisman o Sir Ddinbych oedd ar ddyletswydd yno yn dweud bod trais ar y ddwy ochr.
"Missiles started being rained upon us.
"I turned to a colleague, Stan and I remember saying, I'll leave a certain word out I think we're going to die here."
Daeth be sy'n cael ei nabod fel Brwydr Orgreave yn un o ddigwyddiadau pwysicaf Streic y Glowyr.
Wrth gerdded fan hyn heddiw, mae'n anodd dychmygu be ddigwyddodd yn y gwrthdaro gwaedlyd yna rhwng y glowyr a'r heddlu yn Orgreave.
Mae gymaint wedi newid ers y diwrnod yna ond mae'r creithiau yn parhau mewn cymunedau glofaol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Roedd Orgreave yn drobwynt mewn streic hir, caled a chwerw.
Cafodd 120 o lowyr a phlismyn eu hanafu a 95 o lowyr eu cyhuddo o derfysg ac anrhefn treisgar.
Ond fe gafodd yr achosion yn eu herbyn eu gollwng.
Ers hynny, mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am ymchwiliad.
Yn eu plith Cwnsler Cyffredinol Cymru oedd yn gyfreithiwr ifanc ac yn cynrychioli rhai o'r glowyr a gafodd eu harestio.
"Mae angen ymchwiliad y Deyrnas Unedig gyfan arnom ni i gyrraedd y gwir.
"Allwn ni ddim aros yn llawer hirach.
"Mae llawer o lowyr eisoes wedi marw ond llawer yn aros am gyfiawnder.
"Mae'r hawl gennym ni i wybod pwy roiodd y gorchmynion pwy o'dd yn gyfrifol am wyrdroi cwrs cyfiawnder pwy sy'n gyfrifol am gamddefnyddio pŵer y wladwriaeth."
Mae 40 mlynedd yn amser hir.
Dyw be ddigwyddodd yn Orgreave ar ddiwrnod crasboeth o haf yng nghanol Streic y Glowyr ddim wedi diflannu o'r cof.