Donald Trump: Angen i America 'sefyll yn unedig' ar ôl ymgais i'w lofruddio
Donald Trump: Angen i America 'sefyll yn unedig' ar ôl ymgais i'w lofruddio
Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi galw ar bobl yr UDA i "sefyll yn unedig" yn dilyn ymgais i'w lofruddio.
Cafodd Donald Trump ei anfon i'r ysbyty gydag anafiadau wedi i ddyn saethu ato mewn rali yn Pennsylvania ddydd Sadwrn.
Mae ymgeisydd arlywyddol yr UDA bellach wedi ei ryddhau o'r ysbyty ac wedi cyhoeddi datganiad ar ei lwyfan cyfryngau cymdeithasol, Truth Social.
Dywedodd Mr Trump: "Duw yn unig wnaeth atal yr hyn nad yw’n werth meddwl amdano, i ddigwydd.
"Ni fyddwn yn ofni, ond yn parhau yn wydn yn ein ffydd ac yn wrthwyneb i’r drwg.
“Rydym yn gweddïo am wellhad y rhai cafodd eu hanafu, ac yn ein calonnau y mae’r unigolyn a gafodd ei ladd mewn modd mor erchyll."
Ychwanegodd: “Yn y foment hon, mae’n bwysicach nag erioed i ni sefyll yn unedig a dangos ein wir gymeriad fel Americanwyr, gan aros yn gryf ac yn benderfynol, a pheidio â gadael i ddrwg ennill.
“Rydw i’n caru ein gwlad, ac yn eich caru chi i gyd. Rydw i’n edrych ymlaen at siarad yn Wisconsin yr wythnos hon.”
Roedd lluniau teledu o'r digwyddiad ddydd Sadwrn yn dangos Mr Trump yn disgyn i'r llawr cyn cael ei amgylchynu gan swyddogion o'r gwasanaethau cudd.
Cododd ar ei draed ar ôl tua munud gyda gwaed ar ei glust dde a'i foch, cyn gweiddi 'Fight! Fight!' ar ei gefnogwyr yn y dorf.
Mae'r dyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad wedi ei saethu'n farw ac mae wedi ei enwi gan yr FBI fel Thomas Matthew Crooks, oedd yn 20 oed.
Roedd Crooks yn dod o Barc Bethel, Pennsylvania, tua awr o'r lle y cynhaliwyd y rali.
Roedd yn Weriniaethwr cofrestredig, yn ôl cofnodion pleidleiswyr y wladwriaeth.
Ond yn ôl Reuters, pan oedd Crooks yn 17 oed, fe wnaeth gyfraniad o $15 i ActBlue, sef pwyllgor gweithredu gwleidyddol sy'n codi arian ar gyfer gwleidyddion adain chwith a Democrataidd.