Carcharu'r chwaraewr snwcer Michael White am droseddau trais domestig
Mae'r chwaraewr snwcer proffesiynol Michael White wedi cael ei garcharu am droseddau trais domestig.
Cafodd White sydd o Gastell-nedd ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar am yr ymosodiadau a ddigwyddodd dros gyfnod o dros flwyddyn yn ôl Heddlu De Cymru.
Dywedodd Cymdeithas Snwcer a Biliards Proffesiynol y Byd (WPSBA) eu bod nhw wedi cael gwared o White fel aelod ar ôl iddo gael ei ddedfrydu ddydd Iau.
Ychwanegodd y gymdeithas nad oedd White bellach ar restr detholion y byd a Thaith Snwcer y Byd.
Dywedodd yr heddwas Ellen Green o Heddlu De Cymru: "Mae Michael White wedi cael ei garcharu yn sgil ei ymosodiadau ar ei ddioddefwr ar nifer o adegau gwahanol, gan eu gadael nhw gydag anafiadau.
"Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yn flaenoriaeth i ni yn Heddlu De Cymru."
Mewn datganiad, dywedodd yr WPBSA: "Nid yw'r WPBSA yn goddef ymddygiad o'r fath gan aelod ac mae wedi cymryd camau ar unwaith i gael gwared o Michael White fel aelod o'r WPBSA.
"Mae'r WPBSA wedi bod yn monitro'r achos ac fe gafodd cyfarfod brys o'r bwrdd ei gynnal wedi iddo gael ei ddedfrydu."