Carchar i ddyn am gynllwyn i gipio, treisio a llofruddio Holly Willoughby
Mae cynllwyn aflwyddiannus i dreisio a llofruddio Holly Willoughby wedi cael effeithiau "trychinebus" a fydd yn "newid bywyd" y cyflwynydd, clywodd llys.
Cafodd Gavin Plumb, cyn swyddog diogelwch o Harlow, Essex, yn euog o gymell llofruddiaeth, annog herwgipio ac annog trais rhywiol rhwng 2021 a 2023.
Yn Llys y Goron Chelmsford ddydd Gwener, cafodd ddedfryd oes, gyda’r barnwr yn dweud y bydd yn rhaid iddo dreulio lleiafswm o 16 mlynedd yn y carchar.
Clywodd y llys fod Plumb, 37 oed, wedi creu cynlluniau “graffig” i herwgipio, treisio a llofruddio Ms Willoughby gyda heddwas cudd o'r Unol Daleithiau.
Roedd y cynlluniau yn cynnwys ceisio “ymosod” ar y cyflwynydd yn ei chartref.
Cafodd tystiolaeth yr heddwas ei basio i’r FBI ac ymlaen i’r heddlu ym Mhrydain.
Fe wnaeth hynny arwain at gyrch gan Heddlu Essex yn fflat Plumb, lle daethant o hyd i boteli o glorofform a ‘chit herwgipio’.
'Sioc ac ofn'
Yn ystod gwrandawiad dedfrydu Plumb, dywedodd yr erlynydd Alison Morgan KC fod Ms Willoughby yn dymuno i’w datganiad dioddefwr fod yn breifat ond dywedodd ei fod yn nodi "effaith trychinebus y troseddau hyn".
Ychwanegodd Ms Morgan: “Mae’n gwbl amlwg, yn ôl datganiad yr erlyniad bod effaith y troseddau hyn wedi newid bywyd y dioddefwr – yn breifat, yn bersonol ac yn broffesiynol.
“Mae’n amlwg, ei fod yn amhosib cyfleu maint y sioc ac ofn a achoswyd gan y troseddu hyn.
“Yn wir, o gael gwybod mwy am yr achos hwn, y bwriad a manylion y dystiolaeth, mae’n anochel bod hynny wedi gwaethygu’r trawma i’r dioddefwr.
“Rydyn ni’n dweud bod troseddu o’r math hwn, fel y dywedodd Ms Willoughby yn ei datganiad cyhoeddus, yn cael effaith ehangach ar fenywod.
“Ni ddylai merched deimlo’n anniogel wrth fyw eu bywydau bob dydd.”
Dywedodd yr erlynydd ei fod yn achos “lle dylai’r llys osod dedfryd o garchar am oes”.