Rhyfel yn Wcráin ar flaen yr agenda yn uwch-gynhadledd NATO
Rhyfel yn Wcráin ar flaen yr agenda yn uwch-gynhadledd NATO
Arweinwyr rhai o'r gwledydd cyfoethocaf sy'n wynebu problemau mwyaf dyrys y byd. Dyma be sy'n cael ei alw'n lun teuluol NATO.
Ar frig yr agenda yn Washington, y rhyfel yn Wcráin. Y prynhawn 'ma, daeth cyhoeddiad y bydd awyrennau milwrol arbennig ar gael i'r wlad yn fuan a hynny am y tro cyntaf.
"I'm pleased to announce that as we speak the transfer of F16 jets is underway coming from Denmark and the Netherlands. Those jets will be flying in the skies of Ukraine this summer to make sure that Ukraine can continue to effectively defend itself against the Russian aggression."
Beth yw pwysigrwydd yr uwch-gynhadledd eleni?
"Wrth feddwl heddiw, y bygythiad o Rwsia yn ymosod ar Wcráin. Mae NATO yn bwysicach nag erioed o ran amddiffyn gyda'n gilydd, gwledydd democrataidd."
Dyma uwch-gynhadledd ryngwladol gyntaf Syr Keir Starmer ers ennill yr etholiad. Ymysg ei gyfarfodydd cyntaf Arlywydd Wcráin, Vlodymyr Zelensky. Mae'r Prif Weinidog wedi addo cynyddu gwariant ar amddiffyn i 2.5% o incwm cenedlaethol ond does dim amserlen ar hynny.
"I've had a very good meeting with President Zelensky where I made it clear that as far of the UK is concerned the change of government makes no difference to our support.
"We've been united on this when we were in opposition and it was important to be able to affirm that."
Zelensky yw'r brif act yn Washington heddiw.
"Mae'n moyn mwy o arfau, adnoddau, systemau amddiffyn o'r awyr a chefnogaeth NATO hirdymor fel aelodaeth NATO yn y pendraw."
"Ukraine can and will stop Putin."
Yn wleidyddol, mae'r digwyddiad hefyd yn bwysig i'r Arlywydd Biden. Mae pryderon cynyddol gan rai os yw'n abl i wneud y swydd.
"Bron i bythefnos ers ei berfformiad trychinebus yn y ddadl deledu mae'r pwysau'n parhau ar Joe Biden a llygaid y byd yn ei wylio.
"Ar un llaw, mae uwchgynhadledd NATO yma yn Washington yn gyfle euraidd i Biden ddangos yr egni, yr awdurdod a'r arweinyddiaeth fyddai'n tawelu gofidion cynifer o fewn y Blaid Ddemocrataidd.
"Ar yr un pryd, mae'r bygythiad yn amlwg. Byddai perfformiad llac, tila arall gan yr Arlywydd Biden wythnos hon yn ergyd farwol i'w obeithion o gadw gafael ar y Tŷ Gwyn."
Ac yno yn y Tŷ Gwyn y bydd Syr Keir Starmer yn mynd yn yr oriau nesaf ar gyfer ei gyfarfod wyneb yn wyneb cynta gyda'r Arlywydd.