Newyddion S4C

Arestio pedwar dyn ar amheuaeth o dresmasu yng nghartref Rishi Sunak

25/06/2024
Kirby Sigston

Mae pedwar dyn wedi’u harestio ar amheuaeth o dresmasu yng nghartref etholaeth y Prif Weinidog Rishi Sunak yn Kirby Sigston, meddai Heddlu Gogledd Sir Efrog.

Cafodd y dynion eu hebrwng oddi ar yr eiddo a’u harestio ar amheuaeth o dresmasu am tua 12:40 ddydd Mawrth.

Ychwanegodd y llu fod un dyn 52 oed o Lundain, un dyn 43 oed o Bolton, un dyn 21 oed o Fanceinion, ac un dyn 20 oed o Chichester wedi eu harestio.

Maen nhw’n parhau yn nalfa’r heddlu ac mae ymchwiliadau’n parhau.

Llun: Geograph

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.