Reform UK yn lansio eu 'cytundeb' etholiadol ym Merthyr
Reform UK yn lansio eu 'cytundeb' etholiadol ym Merthyr
Mae Nigel Farage wedi lansio maniffesto Reform UK yng Nghymru ddydd Llun - ond mae'n well gan y blaid ei alw'n 'gytundeb' na maniffesto traddodiadol.
Dywedodd arweinydd y blaid Reform UK ei fod wedi penderfynu lansio'r ddogfen yng Nghymru “am ei fod yn dangos i bawb yn union beth sy’n digwydd i wlad pan mae Llafur wrth y llyw”.
Wrth siarad ym Merthyr Tudful, dywedodd Mr Farage: “Rydyn ni’n mynd trwy gyfnod o dorri ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth lle mae maniffestos – un ar ôl y llall – yn parhau i wneud yr un addewidion a does neb yn credu nawr, a dweud y gwir, gair maen nhw’n ei ddweud.
“Dyna pam nad yw heddiw, yn benodol, yn lansiad maniffesto.”
Ychwanegodd y gwleidydd 60 oed: “Un o’r rhesymau yr ydym yn lansio ein cytundeb gyda phobol Prydain yng Nghymru yw oherwydd ei fod yn dangos i bawb yn union beth sy’n digwydd i wlad pan mae Llafur wrth y llyw.
“Mae ysgolion yn waeth nag yn Lloegr, mae rhestrau aros y GIG yn hirach nag yn Lloegr, roedd cyfyngiadau Covid hyd yn oed yn llymach nag yn Lloegr.
“Ers datganoli, mae’r Cymry wedi cael eu hanwybyddu gan sefydliad gwleidyddol Llundain a’u siomi gan y weinyddiaeth Lafur y maen nhw wedi ei hethol.”
Ychwanegodd Mr Farage: “Felly, os ydych chi eisiau darlun o sut le fydd y wlad gyfan gyda llywodraeth Starmer a gwrthblaid Geidwadol wan, dewch i Gymru ac yna gwrandewch arnom ni'n datgelu dyfodol gwell i Brydain gyfan.”
Daw hyn ar ôl i arolwg barn newydd awgrymu bod Reform UK wedi codi un safle'n uwch na'r Ceidwadwyr o ran cefnogaeth yn yr ymgyrch etholiadol.
Yn yr arolwg gan YouGov a gomisiynwyd gan bapur newydd The Times, roedd plaid Nigel Farage ar 19% gyda'r Ceidwadwyr ar 18% o ran bwriad pleidleisio. Mae hyn yn ergyd arall i obeithion y Torïaid o ddychwelyd i lywodraeth.
Er eu mantais, nid oes disgwyl i Reform UK ennill nifer fawr o seddi yn yr etholiad gan fod eu cefnogaeth mor wasgaredig.