Emyr Afan 'wrth ei fodd' yn derbyn OBE
Mae un sy'n derbyn un o anrhydeddau pen-blwydd y brenin eleni, wedi dweud ei fod "wrth ei fodd" ei fod wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei waith caled.
Fel prif swyddog gweithredol cwmni cynhyrchu Afanti, mae Emyr Afan wedi’i anrhydeddu ag OBE (‘Officer of the Order of the British Empire’) am ei gyfraniad i’r cyfryngau a cherddoriaeth yng Nghymru.
Cwmni Avanti sy'n gyfrifol am gynhyrchu rhaglen Jonathan a Cân i Gymru ar gyfer S4C.
Wrth siarad mewn eitem ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ddydd Sadwrn, dywedodd Emyr Afan ei fod yn "croesawu'r anrhydedd yn fawr".
"Rwyf wrth fy modd, jyst cydnabyddiaeth i Avanti ac i'r tri degawd o waith caled yn y maes cyfryngau a cherddoriaeth ar draws Cymru, Prydain ac Ewrop," meddai.
"Mae jyst yn neis i gael rhywun i ddweud 'gret, do fi wedi bod ar flaen y gad ar safbwynt y petha yna'.
"Gwyl y Faenol, rhaglen Jonathan, Yr Urdd wythnos diwethaf, mae 'na lot fawr o waith wedi mynd yna, so mae'r gydnabyddiaeth yn cael ei groesawu'n fawr," ychwanegodd ar y rhaglen radio.