Gwleidydd o'r gogledd yn disgrifio diagnosis awtistiaeth fel 'galar a rhyddhad'
Gwleidydd o'r gogledd yn disgrifio diagnosis awtistiaeth fel 'galar a rhyddhad'
“Galar a rhyddhad”- dyna eiriau gwleidydd o’r gogledd wrth ddisgrifio'r profiad o dderbyn diagnosis o awtistiaeth.
Fe gafodd Catrin Wager sy’n ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiad San Steffan y newyddion bod ganddi’r cyflwr ddiwedd y llynedd gan ddweud fod fel pe bai “y geiniog wedi disgyn” iddi.
Mai’n galw am wella ymwybyddiaeth o’r hyn y gall pobl gyda chyflyrau niwrolegol gyfrannu i’r gymuned.
Yn ôl data gan elusen NAS Cymru, mae merched yn fwy tebygol o gael diagnosis yn hwyrach na dynion.
Fe ddechreuodd Ms Wager amau fod ganddi gyflwr amrywiaeth niwrolegol pan gafodd cyfaill agos iddi ddiagnosis.
“Wrth edrych yn ôl dwi’n meddwl drwy fy oes ‘dwi ‘di teimlo yn wahanol.
“Mae ‘na heriau wrth gymdeithasu a dydi cymdeithasu ddim yn reddfol”.
'Goresgyn heriau'
Wrth siarad â Newyddion S4C am ei diagnosis mai’n dweud bod hi’n edrych yn ôl ar ei phlentyndod ac yn adnabod rhai o’r symptomau.
“Mae rhywun yn edrych yn nôl ar fod yn blentyn a chofio’r holl adegau o drio gwneud jôc neu drio gwneud rhywbeth oedda chi’n meddwl oedd yn iawn a doedd o ddim ac mae rhywun yn brifo”.
A hithau bellach yn gyn-gynghorydd sir ac yn ymgeisydd ar gyfer etholiad San Steffan mae hi’n dweud ei bod yn dechrau dod i ddeall yr hyn sy’n effeithio arni a sut mae goresgyn yr heriau.
“Yn benodol i fi, sain ydi’r peth dwi’n cael trafferth efo, os oes lot o sŵn gwahanol dwi methu dehongli’r synau.
“Oni wastad yn meddwl, fi di hwn... dwi’n rili wierd a be sy’n wrong efo fi?
“Pam bod pawb arall yn gallu eistedd mewn pub a chael sgwrs ond dwi methu clywed beth mae’r person reit drws nesa imi yn ei ddweud ac heb syniad mai awtistiaeth oedd hynny.
“Dwi’n gallu gwneud stwff strategol lefel uchel a dwi’n ei fwynhau ond dwi’n cael trafferth gadael y tŷ oherwydd mae ffeindio fy ngoriadau a ffeindio’r ffôn yn anodd... ac oedd o jest y geiniog yn disgyn [pan gesh i ddiagnosis]”.
“Nid fi sy’n od... jest felma ma fy mrên i’n gweithio.
'Dim yn ffitio mewn'
Fe dderbyniodd ddiagnosis o awtistiaeth a hefyd ADHD ym mis Tachwedd 2023 gan ddweud bod ganddi deimladau cymysg.
“Mae fath â galar bron yn cael y diagnosis, oedd o’n brifo edrych nôl ar hanes a meddwl am yr hogan fach ‘na oedd mor unig yn teimlo doedd hi’m yn ffitio mewn yn wynebu gymaint o heriau yn tyfu fyny a ddim yn gwybod fod o’n iawn iddi fod yn hi ei hun.
“Mae o’n rhyddhad yn gallu adnabod pethau ond ma’n broses i ddelio efo teimladau”.
Yn ôl Ms Wager mi fuodd yn brofiad “heriol” wrth geisio penderfynu a oedd hi am siarad yn gyhoeddus am ei diagnosis gan boeni be fyddai pobl yn meddwl.
“Mae o am y syniad 'ma o fod yn anabl ac yn methu gwneud rhywbeth a’r ofn bron o sut mae pobl mewn cymdeithas yn mynd i ngweld i.
“Mae pobl yn gweld o fel gwendid”.
Galw am wybodaeth
Yn ôl data gan elusen NAS Cymru a Llywodraeth Cymru, mae merched yn fwy tebygol o gael diagnosis yn hwyrach na dynion.
Tuedd sydd hefyd i’w weld gan adran newydd o fewn Cyngor Gwynedd sydd wedi ei sefydlu i helpu unigolion sydd ag awtistiaeth.
Mae’r Cyngor bellach wedi sefydlu arolwg er mwyn ceisio deall anghenion y gymuned.
“Oedda ni’n teimlo bod angen arolwg er mwyn trio dal picture gwell o be oedd yn mynd ymlaen ar draws y sir- be oedd angen, lle oedd angen o a sut 'da ni’n mynd i gyfarch yr angen”, meddai Lucy Hemmings, Arweinydd Ymarfer Awtistiaeth.
“Ers i’r tîm ddatblygu gwasanaeth gwybodaeth cyngor a chymorth - mae 'na alw mawr am hynny i bobl sydd isho gwybodaeth”.
Ychwanegodd Mared Gwyn Jones, Gweithiwr Allweddol Awtistiaeth Gwynedd fod “patwrm yn dangos bod 'na dipyn o ferched a genod ifanc mewn ffordd isho cael y cymorth achos bod nhw’n ffeindio bod nhw wedi bod ella yn cuddiad neu ddim isho son am eu hawtistiaeth, ma’n batrwm 'da ni yn gweld”.
Cytuno mae Catrin Wager gan ddweud “bod merched yn cuddio fo mwy”.
Drwy rannu ei phrofiad, mae hi'n gobeithio y bydd hynny yn arwain at ragor o amrywiaeth o fewn y byd gwleidyddol yn y pendraw.
Yn ol Llywodraeth Cymru, mae nhw wedi clustnodi £12 miliwn yn rhagor er mwyn gwella cyfleusterau sydd eisoes yn bodoli i bobl sydd ag awtistiaeth gan ddweud eu bod hefyd yn cydweithio gydag asiantaethau eraill er mwyn cefnogi pobl sydd â’r cyflwr.