Newyddion S4C

Galw am orfodi cyrff cyhoeddus i ystyried newid hinsawdd

20/11/2023
S4C

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi galw ar Lywodraeth y DU i orfodi cyrff cyhoeddus i wneud newidiadau yn sgil newid hinsawdd.

Mewn adroddiad newydd, mae'r Ymddiriedolaeth yn dweud eu bod nhw fel mudiad eisoes yn profi effaith tywydd eithafol fel glaw trwm, tanau, a sychder ar eu heiddo.

Mae nhw eisiau gweld deddf newydd yn cael ei chyflwyno, fyddai'n golygu y byddai gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd statudol i addasu eu gwaith yng ngwyneb newid hinsawdd.

Mae'r mudiad yn gyfrifol am nifer o adeiladau mwyaf adnabyddus Cymru, yn ogystal â miloedd o erwau o dir a 157 milltir o'r arfordir.

Dywedodd Patrick Begg o'r Ymddiriedolaeth mai newid hinsawdd oedd "y bygythiad unigol mwyaf" i waith y mudiad.

"Mae'n mynnu ein sylw ar frys, a rydym yn galw ar ein partneriaid a llywodraethau ar draws y DU i sefyll gyda ni yng ngwyneb yr heriau sydd o'n blaenau," meddai.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Ym mis Chwefror, cafodd yr Adran Sicrwydd Ynni a "Net Zero" ei greu i sicrhau fod newid hinsawdd yn parhau yn ffocws allweddol ar draws y Llywodraeth." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.