Newyddion S4C

Apêl gan ddiwydiant: Mae angen ‘consensws’ cyn y gyllideb

20/11/2023
Rain Newton-Smith

Mae'r corff sy’n hybu buddiannau’r byd busnes yn y DU yn erfyn ar wleidyddion i ddod o hyd i “gonsensws” wrth i etholiad cyffredinol nesáu.

Mae Rain Newton-Smith, pennaeth Conffederasiwn Busnesau Prydain (CBI), yn gofyn i’r ddwy brif blaid sicrhau na fydd y deng mlynedd nesaf yn cael eu diffinio fel cyfnod o “dwf isel a cholli cyfleon”.

Mewn cynhadledd ddydd Llun fe fydd Ms Newton-Smith yn gofyn i’r pleidiau gwleidyddol weithio ar y cyd gyda busnesau i helpu annog twf cynhaliol.

Dywedodd Ms Newton-Smith: “Rwy’n gofyn i’r blaid Geidwadol a’r blaid Lafur a phob plaid fydd yn ymgyrchu yn yr etholiad cyffredinol i beidio â gadael stori 2024 i fod yn un o dwf isel a cholli cyfleon.

“Er gwaethaf y rhaniadau dros y blynyddoedd diwethaf, mae yna gonsensws o amgylch yr angen i ddarparu twf cynhaliol sy’n gwella bywydau pobl heddiw a chenedlaethau'r dyfodol.”

Daw eu sylwadau cyn Datganiad yr Hydref gan y canghellor Jeremy Hunt ddydd Mercher.  Fe fydd Mr Hunt hefyd yn annerch y gynhadledd yn dilyn cyfnod o beidio â chysylltu â’r corff.

Roedd nifer o’u haelodau wedi gadael yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol a threisio.

Ym mis Ebrill, dywedodd Mr Hunt “nad oedd pwynt” cysylltu gyda’r corff ond mae wedi newid ei feddwl yn dilyn newid yn arweinyddiaeth y CBI.

Mae’r CBI yn gofyn i Mr Hunt gyflymu cynllunio a chysylltiadau rhwydwaith trydan er mwyn hybu twf yn y sector gwyrdd.

Yn y gynhadledd fe fydd y blaid Lafur yn annog llywodraeth y DU i gynyddu buddsoddi mewn busnesau.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Rishi Sunak wneud sylwadau am yr economi mewn digwyddiad ar wahân ddydd  Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.