Newyddion S4C

Rhybudd llifogydd dal mewn grym i rannau o Gymru

19/11/2023
Rhybudd llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi bod rhybudd llifogydd yn dal mewn grym ar gyfer ardaloedd yn ne, de orllewin a gogledd Cymru.

Mae rhybudd llifogydd coch, 'angen gweithredu ar frys' yn dal mewn grym ar gyfer afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod.

Mae rhybudd llifogydd melyn 'byddwch yn barod' mewn grym ar gyfer dalgylchoedd afonydd yn yr ardaloedd canlynol: 

  • Gogledd, de a gorllewin Sir Benfro
  • Afon Ddawan ym Mro Morgannwg

Prynhawn dydd Sul fe gyhoeddwyd rhybudd melyn am y dalgylchoedd canlynol yng nghanolbarth a gogledd Cymru:

  • Hafren Isaf ym Mhowys
  • Efyrnwy
  • Dyfrdwy Uchaf
  • Conwy
  • Glaslyn a Dwyryd
  • Mawddach ac Wnion
  • Dyfi

Daw yn dilyn glaw trwm dros y penwythnos.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.