Rhybudd melyn am law i siroedd y de ddydd Iau
16/11/2023
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar draws rhannau o dde Cymru.
Fe fydd y rhybudd mewn grym o 00:00 ddydd Iau ac fe fydd yn parhau tan 18:00
Gall oedi fod yn debygol ar wasanaethau trên a bws, gyda disgwyl i deithiau gymryd mwy o amser.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd gallai rhai siroedd brofi cawodydd trymion gyda hyd at 40mm o law yn disgyn mewn mannau.
Fe allai gwyntoedd hyd at 50mya gael eu cofnodi hefyd.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Merthyr Tudful
- Penybont
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen