Newyddion S4C

Gallai costau cynhyrchu fod yn rhwystr i gynhyrchiadau Cymraeg yn y dyfodol

10/11/2023

Gallai costau cynhyrchu fod yn rhwystr i gynhyrchiadau Cymraeg yn y dyfodol

Mewn lleoliad go blaen ar un o strydoedd Bangor y gwaith o ffilmio ail gyfres 'Dal y Mellt' sydd wedi ei seilio ar nofel newydd Iwan 'Iwcs' Roberts. Dal Arni.

Gyda'r gyfres gynta wedi ei gwerthu i Netflix mae'r actor o Fon sy'n chwarae'r prif gymeriad wrth ei fodd.

Mae'r profile jyst wedi tyfu. Gafon ni ymateb lyfli ar S4C i ddechrau efo hi. Mae clywed bod pobl o America ac Awstralia o dros y ffilm yn Lloegr sy ddim yn siarad Cymraeg wedi mwynhau'r cynhyrchiad yn galonogol iawn.

Ddeng mlynedd yn ôl mi gafodd trefn rhyddhad treth ei chyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

I fod yn gymwys mae'n rhaid i gost cynhyrchiad £1m o bunnau yr awr. Y rhwystr ar hyn o bryd ydi nad ydyn ni'n gymwys ar gyfer y tax credit sydd ar gael i wneud ffilmiau.

Mae'n rhaid i ddrama daro miliwn yr awr i allu hawlio'r tax credit a 'dan ni o dan y bar yna. 'Dan ni ddim yn gallu cystadlu bob tro ar y lefel o werthoedd cynhyrchu.

Mewn dogfen gafodd ei chyflwyno i'r Pwyllgor Diwylliant yn San Steffan fis dwetha, mae S4C yn nodi fod dramâu safonol y sianel yn costio rhwng chwarter miliwn a thri chan mil o bunnau yr awr... ..ac yn galw i leihau'r trothwy ad-daliad treth.

Mae sgyrsiau'n mynd ymlaen rhwng S4C, y DCMS, Cymru Creadigol Llywodraeth Cymru, er mwyn gweld be allith gael ei wneud i drio dod a'r lefel miliwn yna i lawr fel bod cynyrchiadau o ieithoedd leiafrifol yn gallu taro rhyw far gwahanol a bod nhw yn elwa ac yn gymwys ar gyfer y credyd.

Ar hyn o bryd, parhau mae'r sgyrsiau. Mae trysorlys y Deyrnas Unedig yn deud mae bron i £1.4m o gymorth wedi ei roi i'r diwydiant y llynedd.

Mae gostyngiadau treth wedi cefnogi miloedd o gynyrchiadau.

Yma yng Nghymru, mae yna obeithio fydd mwy o ffocws ar gynhyrchiadau Cymraeg yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.