Pobl unig yn fwy tebygol o farw'n gynt
Dylai pobl geisio ymweld â ffrindiau a theulu o leiaf unwaith y mis er mwyn lleihau'r risg o farwolaeth gynamserol yn ôl ymchwil newydd.
Daw hyn wedi i ymchwilwyr ganfod fod pobl sydd byth neu yn anaml yn cael cwmni gan eraill yn fwy tebygol o farw.
Defnyddiodd academyddion o Brifysgol Glasgow ddata gan astudiaeth y UK Biobank, sef astudiaeth hir-dymor yn dadansoddi iechyd a geneteg bron i 500,000 o oedolion o gwmpas y DU.
Mae unigrwydd wedi cael ei gysylltu gyda risg uwch o farw yn gynamserol mewn amryw o astudiaethau yn y gorffennol, ond dywedodd academyddion eu bod eisiau archwilio sut y gall rhyngweithio cymdeithasol gwahanol effeithio ar risg person.
Fe wnaeth yr academyddion edrych ar bum math gwahanol o ryngweithio cymdeithasol gan 458,145 o bobl gyda'r oed cyfartalog o 57, cyn mynd ymlaen i'w tracio am gyfartaledd o 12.6 mlynedd.
Yn ystod y cyfnod yma, bu farw 33,135 o bobl.
Daeth yr astudiaeth i'r canfyddiad bod y rhai nad oedd yn gweld ffrindiau a theulu yn aml yn fwy tebygol o farw.
Dywedon nhw fod y bobl yma 46% yn fwy tebygol o farw o'i gymharu â phobl oedd yn cael ymweliadau dyddiol gan eraill.
'Ynysig'
Dywedodd cyd-awdur yr astudiaeth, Jason Gill, sydd yn athro mewn iechyd cardiometabolig ym Mhrifysgol Glasgow: "Mae'r risg yn ymddangos i fod ymysg pobl sydd yn ynysig iawn, a sydd ond yn gweld ffrindiau neu deulu tua unwaith y mis.
"Mae sicrhau eich bod yn ymweld â theulu neu gyfeillion unig ac ynysig yn beth buddiol i'w wneud gan ei fod yn ymddangos yn bwysig fod pobl yn cael ymweliad o leiaf unwaith y mis."
Daeth yr astudiaeth i'r casgliad hefyd fod pobl oedd yn mynchu gweithgareddau grŵp wythnosol, gan gynnwys gwersi canu neu fynd i'r eglwys, yn llai tebygol o farw.
Ychwanegodd yr ymchwilwyr y gallai'r canfyddiadau fod o fudd i helpu i adnabod pobl sydd gyda risg uwch o farw yn sgil ffactorau cymdeithasol.
Wrth ymateb i'r casgliadau hyn, dywedodd cyfarwyddwr elusen Age UK Caroline Abrahams: "Mae hon yn astudiaeth newydd bwysig iawn sy'n cadarnhau pa mor ddefnyddiol ydi o ar ein cyfer ni gyd i gael ffrindiau a theulu agos sy'n ymweld ac yn gofalu amdanom ni."