Hanner holl etholaethau Cymru 'mewn perygl o gael eu gadael ar ôl' heb gyswllt 5G
Mae adroddiad newydd gan Vodafone UK, yn dod i'r casgliad bod 50% o holl etholaethau Cymru â chyswllt rhyngrwyd gwael a lefelau uchel o dlodi.
Ac mae’r ymchwil yn datgelu y byddai gwell cysylltiad 5G o fudd i 830,000 o bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig difreintiedig.
Prif bwrpas yr ymchwil oedd cymharu'r sefyllfa mewn ardaloedd gwledig sydd â chyswllt gwan.
Fe wnaeth yr astudiaeth, gan WPI Economics, osod holl etholaethau'r Deyrnas Unedig mewn grwpiau yn seiliedig ar gryfder eu cysylltiad 4G a 5G.
Yn ôl yr adroddiad ‘Connecting the Countryside’, mae hanner holl etholaethau Cymru yn disgyn o fewn y 30% gwaethaf.
Ynys Môn yw’r etholaeth sydd â'r ddarpariaeth waethaf gyda 79% o aelwydydd mewn ardal lle mae eu cysylltiad 5G yn wael.
Gallai rhwydweithiau symudol cyflym a dibynadwy - yn enwedig 5G – fod o fudd i weithwyr gofal iechyd, meddai Vodafone UK.
Gyda gwell cysylltiad, gallai gweithwyr gofal iechyd gwrdd â chleifion dros y ffôn neu gyfrifiadur, gan gynnig triniaeth heb yr angen am apwyntiad wyneb yn wyneb, medd yr adroddiad.
Mae’r ddogfen hefyd yn awgrymu y gallai gwell cysylltedd 5G helpu i gefnogi ffermwyr drwy roi’r gallu iddynt fonitro eu cnydau o bell trwy synwyryddion 5G yn y pridd.
Dywedodd Ahmed Essam, Prif Swyddog Gweithredol Vodafone UK:
“Dylai pawb gael mynediad at gysylltedd ac mae ein hymchwil yn dangos bod bron i filiwn o bobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig difreintiedig yn cael eu gadael ar ôl.
“Mae’n amlwg bod angen i ni gyflymu’r broses o gyflwyno seilwaith 5G yn y DU, sef yr hyn yr ydym yn ymrwymo i’w wneud fel rhan o’n cyfuniad arfaethedig â Three UK."